Mater - cyfarfodydd

Pension Administration/Communications Update

Cyfarfod: 04/09/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 25)

25 Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 253 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd ac i gytuno ar newidiadau i’r Cynllun Busnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd Mrs Williams sylw at ganlyniadau adroddiad Ansawdd Data Rheoleiddiwr Pensiwn 2019. Gostyngodd y sgôr Data Cyffredin o 92.7% y llynedd i 92.1%. Roedd y gostyngiad bach hwn o ganlyniad i 3,867 yn fwy o aelodau yn cael eu profi eleni. Roedd sgôr Data Penodol y Cynllun wedi cynyddu o 68.2% i 81.7%. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y ffactorau newydd, y sgôr Cynllun Penodol a fydd yn cael ei adrodd i'r TPR yw 92.7% a'r sgôr Data Cyffredin yw 96.8%.

 

Nododd Mrs Williams hefyd mai un o’r gweithredoedd ar y cynllun busnes yw cwblhau'r ymarfer olrhain aelodau sydd ar y gweill.

 

Pwysleisiodd Mr Everett fod angen gwthio parhaus gan yr holl randdeiliaid i aelodau ddefnyddio'r Hunan Wasanaeth i Aelodau. Bydd hyn yn cynorthwyo'n fawr o ran rhyddhau adnoddau ar y tîm gweinyddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf a gwneud sylwadau.Yn benodol, nododd y Pwyllgor yr ystadegau sy'n tynnu sylw at y cynnydd rhagorol gyda glanhau data (gan gynnwys cyflwyno data prisio) a gweithredu iConnect; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo newid y dyddiadau yn y cynllun busnes fel y nodwyd ym mharagraff 1.01.