Mater - cyfarfodydd

Governance Update.

Cyfarfod: 04/09/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 23)

23 Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 239 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd hyd yr agenda, cadarnhawyd bod yr adroddiad yn yr eitem hon wedi'i nodi a bod unrhyw gwestiynau wedi'u cymryd.

 

Cadarnhaodd Mr Latham fod canlyniadau arolwg y Rheoleiddiwr Pensiwn wedi eu rhyddhau a bod un argymhelliad yn nodi y dylai cronfeydd pensiwn gael mwy o ryddid i dalu cyflogau i ddenu a chadw staff. Nododd Mrs McWilliam y gall polisïau awdurdodau lleol arwain at anawsterau wrth dalu lefelau priodol i dimau pensiynau, a all yn ei dro effeithio ar gadw staff. Gofynnodd y Cadeirydd a ellid codi a chlywed y sylwadau a'r pryderon hyn o'r Gronfa yn genedlaethol. Dywedodd Mrs McWilliam fod yna weithdai bellach yn ymdrin â'r materion ac yn caniatáu trafodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi ystyried y diweddariad a gwneud sylwadau.