Mater - cyfarfodydd
Outcome of Estyn Inspection
Cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet (eitem 54)
54 Canlyniad Arolwg Estyn PDF 189 KB
Pwrpas: Hysbysu'r Aelodau o ganlyniad yr Arolwg diweddar gan Estyn o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir Y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r arolwg llawn gan Estyn a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2019, ac fe gyhoeddwyd yr adroddiad ar wefan Estyn ar 9 Awst.
Roedd yn falch iawn o gyflwyno’r adroddiad a oedd yn dathlu’r arolwg cadarnhaol o wasanaethau addysg y Cyngor yn Sir y Fflint. Roedd yn adolygiad cynhwysfawr gyda thîm o 12 o arolygwyr yn cyfweld ag uwch reolwyr, swyddogion y rheng flaen, penaethiaid a budd-ddeiliaid ehangach.
Darganfu Estyn, ar y cyfan, bod disgyblion mewn ysgolion lleol, gan gynnwys y rhai â hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai gydag anghenion addysgol arbennig, yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser mewn addysg statudol.Roedd addysg gynradd yn y sir yn arbennig o gryf gyda’r gyfran o ysgolion cynradd sy’n cyflawni dyfarniadau ardderchog am safonau, yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Amlygwyd y berthynas waith effeithiol rhwng y Cyngor a GwE fel cryfder gyda chefnogaeth briodol ar gyfer ysgolion gan arwain at wella’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion.
Roedd perfformiad grwpiau diamddiffyn wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf gyda nifer y disgyblion sy'n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith yn parhau'n isel a’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr wedi’u haddysgu mewn man arall ac eithrio’r ysgol yn dda.
Roedd yr adroddiad yn amlygu bod lles disgyblion yn dda ar draws holl gyfnodau addysg ac yn nodi bod gan y Cyngor strategaethau i wella eu hiechyd meddyliol ac emosiynol yn yr ysgolion. Nodwyd bod arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gryf gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer darparu addysg a oedd wedi’i hadlewyrchu’n dda yn y strategaethau corfforaethol.
Gwnaed nifer fechan o argymhellion yn yr adroddiad ar gyfer gwelliannau parhaus ac roedd y Cyngor yn cytuno â’r rheini, ac roeddent eisoes wedi’u nodi yn y cynlluniau busnes gan y Tîm Portffolio. Roeddent yn cynnwys parhau i wella'r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 4, gwella lefelau presenoldeb disgyblion, a lleihau’r nifer o waharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell bod y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i gadw diffyg ariannol ysgolion dan reolaeth.
Diolchodd yr Aelodau i bawb a oedd yn rhan o hyn a chroesawu’r adroddiad cadarnhaol gan Estyn, gan nodi bod y Cyngor hefyd wedi cael cais i lunio astudiaeth achos ar ei arferion effeithiol wrth gefnogi datblygiad iaith cynnar plant, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar wefan Estyn i effeithio’n gadarnhaol ar waith awdurdodau lleol eraill.
PENDERFYNWYD:
Derbyn adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yn Sir y Fflint a chydnabod y canfyddiadau.