Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 5)
Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 78)
78 Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 5) PDF 378 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 5), eitem 78 PDF 19 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 5), eitem 78 PDF 223 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 5), eitem 78 PDF 46 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 5), eitem 78 PDF 105 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 5), eitem 78 PDF 94 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 5) a oedd, am yr ail dro, yn darparu gwybodaeth fanwl am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 5 y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
- Diffyg gweithredol o £3.042m a oedd yn symudiad negyddol o £0.059m o’r ffigwr diffyg o £2.983 a nodwyd ym Mis 4; a
- Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn arian at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £1.827.
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.108m yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad negyddol o £0.027m o’r ffigwr diffyg £0.081m a nodwyd ym mis 4; a
- Balans terfynol disgwyliedig ar 31 Mawrth 2020 o £1.215m.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y bu i Aelodau, yn y cyfarfod diwethaf, ystyried adroddiadau ar y ddau faes o amrywiadau mawr – Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Chludiant Ysgol. Cadarnhaodd yr Aelodau eu bod yn fodlon bod cwmpas cyfyngedig iawn i liniaru leihau’r gorwariant yn ystod y flwyddyn ac y byddai effaith anochel ar sefyllfa’r gyllideb o 2020/21 a byddai’n rhaid ystyried hyn yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
I gynorthwyo â lliniaru’r gorwariant cyffredinol a rhagamcanwyd, byddai’r mesurau canlynol yn cael eu cyflwyno:
1. Byddai’r holl wariant nad oedd yn hanfodol yn cael ei adolygu a’i herio gyda’r bwriad o’i oedi / rhoi’r gorau iddo lle bo hynny’n bosibl; a
2. Byddai’r Tîm Rheoli Portffolio yn herio recriwtio i swyddi gwag.
Byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Monitro’r Gyllideb (Mis 6).
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol hefyd fanylion yngl?n â’r sefyllfa amcanol fesul portffolio; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a
(b) Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.