Mater - cyfarfodydd

Audit Committee Annual Report

Cyfarfod: 22/10/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 52)

52 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19 a oedd, yn unol ag arfer da, yn dangos i’r Cyngor ei atebolrwydd a’i effeithiolrwydd o ran ei Gylch Gorchwyl. Roedd yr adroddiad wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ym mis Medi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers am i’r adran ar bresenoldeb adlewyrchu yn fwy eglur ei fod wedi mynychu fel dirprwy ac nad oedd gofyn iddo fod yn bresennol yn y cyfarfodydd eraill. Awgrymodd hefyd fod adran 5.4 yn nodi’r arfer i’r Pwyllgor Archwilio bleidleisio i ganiatáu dirprwyon mewn cyfarfodydd.Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i wneud y newidiadau.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, cynigodd y Cynghorydd Chris Dolphin yr argymhelliad a diolchodd i’r Rheolwr Archwilio Mewnol a’i thîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19 yn cael ei gymeradwyo.