Mater - cyfarfodydd

Local Development Plan: Confirming renewable energy local areas of search

Cyfarfod: 11/09/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 40)

40 Cynllun Datblygu Lleol: cadarnhau chwiliad ardaloedd lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy pdf icon PDF 245 KB

Cadarnhau cwmpas chwiliad ardaloedd lleol ynni adnewyddadwy Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint ar fap cynigion, i ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun i gychwyn 30 Medi, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i gadarnhau cwmpas ardaloedd chwilio lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint ar fap cynigion, i ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun i gychwyn 30 Medi 2019.

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (CDLl) yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd mis Medi. Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod, dywedodd nad oedd y rhan o’r CDLl ar Ardaloedd Chwilio Lleol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy wedi cael ei chynnwys yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf gan nad oedd y gwaith wedi’i gwblhau eto. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn gofyn i’r Cyngor lunio adran yn y CDLl ar y mater pwysig hwn i gynorthwyo’r Llywodraeth i gyflawni ei tharged i gynhyrchu 70% o’r trydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae’r elfen hon o’r CDLl wedi’i chwblhau erbyn hyn, ac fe’i cyflwynir i‘w chymeradwyo yn dilyn chwiliad cynhwysfawr i ganfod tir o fewn y Sir i ddarparu ffermydd gwynt neu ffermydd solar i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at leoliad Sir y Fflint a’r cyfyngiadau naturiol o ran dyrannu tir ar gyfer ffermydd gwynt mawr, ond dywedodd fod mwy o gyfleoedd i ddyrannu tir ar gyfer ffermydd solar, a chyfeiriodd at y ddarpariaeth bresennol yn Sir y Fflint ynghyd â datblygiadau newydd. Cynigiodd y Cynghorydd Bithell yr argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndirol ac eglurodd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ganfod Ardal Chwilio. Rhoddodd gyflwyniad ar y broses a oedd yn cynnwys y prif bwyntiau a ganlyn:          

 

  • pwrpas 
  • beth yw Ardaloedd Chwilio, a’r hyn nad ydynt?
  • y potensial o ran ffermydd gwynt
  • y potensial o ran ffermydd solar
  • Ardaloedd chwilio Lleol Solar PV

 

Diolchodd y Cynghorydd Mike Peers i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu hymroddiad a’u gwaith caled o ran cwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer y CDLl, ac am adroddiad cynhwysfawr a llawn gwybodaeth a oedd yn dangos pa mor drylwyr oedd chwiliad y Sir. Eiliodd y Cynghorydd Peers gynnig y Cynghorydd Bithell.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Patrick Heesom, cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y CDLl oedd 30 Medi i 11 Tachwedd 2019.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson o ran Gwastadeddau ac SSI Holway ac ynghyd â’i gais y dylid eu dileu o’r CDLl arfaethedig, cytunodd y Prif Weithredwr i drafod y materion gyda’r Cynghorydd Johnson cyn cyflwyno’r CDLl ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Williams a oedd p?er trydan d?r wedi cael ei archwilio o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Eglurodd y Prif Weithredwr fod y gyfarwyddeb yn canolbwyntio ar b?er gwynt a solar, fodd bynnag, roedd yr Awdurdod bob amser yn edrych ar y potensial o ran adnoddau adnewyddadwy eraill, a dywedodd fod cynllun trydan d?r bach wedi’i gynllunio ar gyfer Cei Connah.

 

PENDERFYNWYD:  ...  view the full Cofnodion text for item 40