Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 06/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 19)

19 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fe dynnodd yr Hwylusydd sylw at gyfarfod arbennig ym mis Tachwedd i ystyried y Gyllideb ar gyfer 2020/21 a fyddai hefyd yn cynnwys yr Adroddiad Monitro Cynllun Canol Blwyddyn y Cyngor a Diweddariad Bwrdd Cartrefi NEW a gafodd eu dwyn ymlaen o fis Rhagfyr.

 

Wrth Olrhain Camau Gweithredu, atgoffwyd Aelodau am yr ymweliad safle i’r prosiect adeiladu modwlar yn Garden City ar 15 Tachwedd.  Roedd cais y Cynghorydd Dolphin am wybodaeth ar y Llwybr Mynediad Sengl i Dai (SARTH) wedi’i weithredu a byddai unrhyw achosion pellach a fyddai’n codi yn derbyn sylw.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryderon yngl?n â’r cynnydd mewn pobl ddigartref ac yn cysgu ar y strydoedd, yn arbennig yn ardal Dyfrdwy, a’r canfyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  Wrth gydnabod nad problem y Cyngor yn unig yw hyn a bod rhai unigolion yn dymuno peidio â derbyn unrhyw gymorth sydd ar gael, fe ddywedodd bod hyn yn achos pwysig a gofynnodd i’r adroddiad wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 2020 i gael ei symud ymlaen i gyfarfod cynharach.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Palmer bod eitem yn y dyfodol ar y dewisiadau ar gael yn y ddeddfwriaeth i gefnogi’r rheiny sydd wedi gwrthod cymorth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hutchinson fod yr adroddiad ar ei gais ar ddyrannu llety amnodd yn cael ei ddwyn ymlaen.  Cynghorodd yr Hwylusydd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr eitem am orfodi tenantiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 2020. Dywedodd er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ateb y gofynion gan Aelodau, roedd ystod o eitemau yn barod ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Oherwydd nifer yr eitemau wedi’u trefnu’n barod ar gyfer y cyfarfodydd nesaf cynigiodd y Cadeirydd fod yr eitemau ar ddigartrefedd a llety amnodd yn cael eu cadw'r un fath.

 

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â digartrefedd, gofynnodd y Cynghorydd Attridge am bapur cyfarwyddyd yn y cyfarfod arbennig ym mis Tachwedd.  Ategwyd hynny gan y Cynghorydd Ron Davies.  Cytunodd y Prif Swyddog fod adroddiad gwybodaeth yn cael ei dderbyn ar y camau gweithredu i’w cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa cysgu allan.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y cynnydd a wneir wrth gwblhau’r camau gweithredu yn weddill yn cael ei nodi.