Mater - cyfarfodydd

Action Tracking

Cyfarfod: 12/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 88)

88 Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gweithdai ar Gynllun y Cyngor a Bid Twf Gogledd Cymru yn cael eu cynnal ar ddiwedd Ebrill a dechrau Mai, yn y drefn honno. Byddai’r seminar a awgrymwyd ar ariannu cyfalaf yn cael ei gynnwys yn y gweithdy Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a drefnwyd ar gyfer mis Mai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd y pwyntiau roedd wedi’u codi ar gysylltiadau gyda’r Bid Twf a materion cysylltiedig yn ymwneud â Phont Dyfrdwy a’r Llwybr Coch wedi cael eu cydnabod. Wrth ymateb i’w bryderon ynghylch y Cais Twf, ategodd y Prif Weithredwr na fyddai unrhyw benderfyniadau rhanbarthol yn cael eu gwneud nes bod y Penawdau Telerau terfynol wedi’u cytuno a dywedodd fod papurau agenda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd. Byddai cyswllt at yr wybodaeth honno yn cael ei rannu ymhlith yr Aelodau a byddai gweithdy’r Bid Twf yn gyfle i Aelodau leisio unrhyw ymholiadau gyda Chyfarwyddwr Rhanbarthol newydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Roedd y cyfarfod gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ei gohirio am y tro tra bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Arweinydd a Phrif Weithredwr newydd.

 

O ran y diweddariad chwarterol ar Gyflogaeth a’r Gweithlu, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at yr ymateb i’w gwestiwn ar gyfanswm y dyddiau a gollwyd yn ystod y cyfnod a dywedodd ei fod hefyd wedi gofyn am yr effaith ar darged canlyniadau’r flwyddyn. Byddai swyddogion yn paratoi ymateb pellach.

 

Cafodd y cynnig ei wneud gan y Cynghorydd Johnson a’i eilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed.