Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 43)
43 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 93 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Wrth gyflwyno'r Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol bresennol i’w hystyried, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai hanner awr yn cael ei neilltuo ar gyfer sesiwn friffio am y model arfarnu newydd.
Soniodd y Prif Weithredwr am y posibilrwydd y byddai angen oedi'r eitem ar Neuadd y Sir tan fis Tachwedd ac efallai y byddai diweddariadau lefel uchel ar safle’r gyllideb genedlaethol ar gael erbyn mis Hydref a Thachwedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei gymeradwyo, gan nodi bod eitemau ar gyfer cyfarfod mis Hydref yn debygol o newid;
(b) Bod diweddariadau lefel uchel am y gyllideb yn cael eu cynnwys ar y rhaglen am y ddau gyfarfod nesaf; a
(c) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.