Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)

Cyfarfod: 16/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 44)

44 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd  y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 30 Ionawr. Cyfeiriodd at gyflwyniad ar y Storfa Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) i roi diweddariad i Aelodau ar y gwaith sydd wedi’I gyflawni yn y storfa cyfarpar. Hefyd dywedodd yr Hwylusydd y cynhelir cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2020 yn Hwb Cyfle. Rhoddodd wahoddiad i’r Aelodau gysylltu â hi neu’r Cadeirydd os hoffent ychwanegu unrhyw eitemau pellach at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd am gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol. Adroddodd nad oedd unrhyw gamau heb eu cymryd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod fersiwn drafft y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.