Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (OC)

Cyfarfod: 09/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 22)

22 Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Newid Sefydliadol a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr adroddiad oedd yn amlinellu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft presennol y Pwyllgor.  Yna rhoddodd ddiweddariad ar yr eitemau oedd yn weddill ar yr atodiad Camau Gweithredu a gwybodaeth ar gynnydd eitemau eraill.   

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) at Wasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor a chadarnhaodd drafodaethau gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yngl?n â chyfraniadau ariannol uwch unwaith y byddai’r teledu cylch cyfyng wedi’i adleoli yn llwyddiannus yn Wrecsam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.