Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 15/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 25)
25 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 96 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried.
Mewn ymateb i bwynt a godwyd am berygl llifogydd a newid hinsawdd gan y Cynghorydd Hinds, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) y gellid dod ag adroddiad gerbron y pwyllgor ym mis Rhagfyr.
Nododd yr Aelodau eu bod yn dymuno ystyried adroddiad am flodau gwyllt ar leiniau glas mewn cyfarfod yn y dyfodol hefyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.