Mater - cyfarfodydd
Community Safety Partnership Annual Report
Cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 36)
36 Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol PDF 137 KB
Pwrpas: Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a oedd yn rhoi trosolwg weithgareddau’r 12 mis diwethaf. Cafodd dyletswyddau statudol y Bartneriaeth eu cyflawni trwy Fwrdd Y Gwasanaethau Cyhoeddus a arweinir gan Sir y Fflint.
Cafodd yr Aelodau eu cyflwyno i Sian Jones, Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes; Richard Powell, Arweinydd Tîm Diogelwch Cymunedol; Rhiannon Edwards, Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; Arolygydd Rhanbarth Gareth Cust o Heddlu Gogledd Cymru; Gerwyn Davies, Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol; a Mike White, Rheolwr Partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Cyd-destun
· Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol
· Cyflawniadau
· Perfformiad
· Rhyngweithio gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel
· Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2018/19
Adroddodd Arweinydd y Tîm Diogelwch Cymunedol bod gostyngiad wedi bod mewn lefelau troseddau dioddefwyr yn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf a bod gostyngiad wedi bod ledled gogledd Cymru mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddodd drosolwg o’r rhyngweithio sydd wedi digwydd gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel ar ardaloedd blaenoriaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, oedolion diamddiffyn a phobl ifanc, yn ogystal â gwarchod cymunedau.
Siaradodd y Cynghorydd Johnson am y cysylltiadau rhwng tlodi, anghydraddoldeb a throsedd. Mewn ymateb i sylwadau am droseddau casineb, byddai penodi Swyddog Cydlyniant Cymunedol i Sir y Fflint (gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru) yn helpu i annog cymunedau i adrodd am ddigwyddiadau.
Soniodd yr Arolygydd Gareth Cust am y dulliau amrywiol sydd ar gael i adrodd am droseddau a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o faterion megis troseddau casineb a Llinellau Sirol. Soniodd hefyd am raglen hyfforddi gyda swyddogion yr heddlu yn Sir y Fflint i adnabod effeithiau Profiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod (ACE).
Wrth gydnabod y pwysau sydd ar adnoddau’r Heddlu, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr atodiad hwyr i adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor a welir yn ddiweddarach yn y Rhaglen, lle'r oedd rhywfaint o ddata perfformiad yr Heddlu ar goll. Roedd hyn yn cynnwys nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cael eu hadrodd a oedd yn faes blaenoriaeth.
Wrth sôn am gymhlethdod y pwnc, siaradodd y Prif Weithredwr am yr angen i ddeall uniondeb y data a ddarperir gan Heddlu Gogledd Cymru ac y byddai angen rhannu ffigwr manwl gywir gyda’r Pwyllgor unwaith y byddai ar gael.
Cytunodd yr Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol bod angen i'r data hwn fod yn fwy clir oherwydd y ffordd y caiff digwyddiadau eu cofnodi. Er mwyn datrys hyn, roedd dadansoddwyr yn adolygu'r dull o gofnodi digwyddiadau er mwyn ymgorffori pob elfen o drais domestig a darparu darlun cywir.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y dylai esboniad fod wedi cael ei gynnwys i helpu i ddeall yr adroddiad er mwyn cymharu perfformiad flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd mai dim ond y ffigwr yn yr adroddiad gwreiddiol y gallai'r Pwyllgor ei dderbyn ar hyn o bryd gyda'r cafeat ynghylch dadansoddi data parhaus.
Cyfeiriodd yr Arolygydd Cust at newidiadau arwyddocaol mewn cofnodi troseddau a chydymffurfio ... view the full Cofnodion text for item 36