Mater - cyfarfodydd
Feedback from the Independent Members’ Visits to Town and Community Councils
Cyfarfod: 30/09/2019 - Pwyllgor Safonau (eitem 33)
33 Adborth o Ymweliadau Aelodau Annibynnol i Gynghorau Tref a Chymuned PDF 97 KB
Pwrpas: Darparu adborth trosfwaol mewn perthynas â’r holl ymweliadau i Gynghorau Tref a Chymuned.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad gan egluro fod aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau wedi mynychu pob cyfarfod Cyngor Tref a Chymuned heblaw un dros y 12 mis diwethaf. Cynhaliwyd yr ymweliadau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned yn cael eu cynnal ar draws y Sir, gyda ffocws penodol ar faterion sy’n ymwneud â Chod Ymddygiad Aelodau (y Cod), a darparu unrhyw adborth sydd yn deillio o’r ymweliadau a allai fod yn ddefnyddiol.
Yr adborth cyffredinol oedd fod cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint wedi’u trefnu’n dda ac yn boblogaidd ac y dylid canmol Cynghorau Tref a Chymuned a’u Clercod am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.
Roedd copïau o lythyrau a anfonwyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned ar ôl pob ymweliad wedi cael eu dosbarthu ac roeddynt ynghlwm wrth yr adroddiad.
Roedd themâu cyffredin wedi codi ac roedd aelodau’r Pwyllgor Safonau yn credu y dylid gwneud gwelliannau i gyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned, sef:
- Dylai ‘Datgan Cysylltiad’ ymddangos fel eitem sefydlog ar bob rhaglen cyn i eitemau’r cyfarfod cael eu rhestru;
- Os bydd Cynghorydd yn Datgan Cysylltiad, dylent nodi ar lafar a yw’r cysylltiad yn bersonol, neu’n bersonol ac sy’n rhagfarnu, a dylid rhoi eglurhad byr o natur y cysylltiad gan gynnwys pa eitem y mae’r cysylltiad yn ymwneud ag o, a dylid ei gyflwyno’n ysgrifenedig cyn diwedd y cyfarfod hefyd;
- Dylai rhaglenni fod ar gael ar wefan y Cyngor cyn y cyfarfodydd a dylai cofnodion y cyfarfod gael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor;
- Er mwyn hyrwyddo hygyrchedd, dylai lleoliad, dyddiad ac amser y cyfarfodydd fod ar gael ar wefan y Cyngor a dylid rhoi digon o arwyddion o amgylch y lleoliad ei hun;
- Dylai enwau’r Cynghorwyr gael eu hargraffu mewn cyfarfodydd er mwyn i aelodau’r cyhoedd wybod pwy ydi Aelodau’r Cyngor;
- Dylid trefnu sesiynau cynefino i bob Cynghorydd newydd, gan gynnwys eglurhad o’r hyn a ddisgwylir ganddynt o dan y Cod;
- Mae’r materion sydd eu hangen o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 wedi’u cyhoeddi ar wefannau Cynghorau Tref a Chymuned:
a) Gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â’r Cyngor, ac os yn wahanol, y Clerc gan gynnwys:
i. Rhif Ffôn;
ii. Cyfeiriad Post;
iii. Cyfeiriad e-bost;
b) Gwybodaeth am bob Aelod, gan gynnwys:
i. Enw’r Aelod;
ii. Sut y gellir cysylltu â’r Aelod;
iii. Cysylltiad yr Aelod ag unrhyw Blaid (os o gwbl);
iv. Y ward y mae’r Aelod yn ei g/chynrychioli (lle y bo’n berthnasol);
v. Unrhyw swydd yn y Cyngor sydd gan yr Aelod;
vi. Unrhyw Bwyllgor o’r Cyngor y mae’r Aelod yn rhan ohono.
c) Cofnodion o’r hyn a ddigwyddodd yng nghyfarfod y Cyngor ac unrhyw ddogfen y cyfeirir atynt yn y cofnodion (yn ôl yr hyn sy’n rhesymol ymarferol);
d) Unrhyw fantolenni a archwiliwyd o gyfrifon y Cyngor; a
e) Chofrestr o fuddiannau'r Aelodau.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, fe eglurodd y Swyddog Monitro ei bod yn ofyniad i gyhoeddi manylion cyswllt Aelodau, ond roedd modd iddo roi caniatâd, yn ... view the full Cofnodion text for item 33