Mater - cyfarfodydd
Flintshire Connects Report
Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 83)
83 Adroddiad Sir y Fflint yn Cysylltu Blynyddol PDF 300 KB
Pwrpas: I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y darperir gwasanaethau ar hyn o bryd a datblygiadau yng Nghanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu. I cytuno ar gyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol yn unol â’r Strategaeth Gwasanaeth Gwsmeriaid Corfforaethol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu a oedd yn manylu ar berfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu, y gwasanaeth a oedd yn gyfrifol am ddarparu mynediad wyneb yn wyneb a digidol i wasanaethau’r Cyngor yn 2018/19.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Sir y Fflint yn Cysylltu yn rhan annatod o Strategaethau Cwsmer a Digidol y Cyngor o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus hygyrch, ymatebol sy’n gost effeithiol ac o ansawdd uchel. Fel rhan o broses cynllunio busnes y Cyngor, bu i Sir y Fflint yn Cysylltu gwblhau adolygiad o’i strwythur yn 2018/19 a arweiniodd at effeithlonrwydd o £46k, gan osgoi unrhyw effaith andwyol ar fynediad cwsmeriaid at wasanaethau.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o berfformiad yn 2018/19 a gwybodaeth yn ymwneud â galw gan gwsmeriaid yn dilyn gweithrediad y strwythur diwygiedig.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi perfformiad uchel a bodlonrwydd cwsmeriaid ar draws Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu;
(b) Cefnogi’r adolygiad o’r gwasanaethau a gefnogir gan Sir y Fflint yn Cysylltu yn 2019/20; a
(c) Nodi rôl bwysig Sir y Fflint yn Cysylltu, i gefnogi Strategaethau Cwsmer a Digidol y Cyngor.