Mater - cyfarfodydd
Appointment of a Lay Member to the Audit Committee
Cyfarfod: 11/09/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 41)
41 Penodi Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio PDF 91 KB
Pwrpas: Ystyried penodi’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y sedd wag Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Archwilio.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Appointment of a Lay Member to the Audit Committee, eitem 41 PDF 139 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Penodi Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i ofyn i’r Cyngor ystyried penodi’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y sedd Aelod Lleyg wag ar y Pwyllgor Archwilio.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu penodi aelod lleyg ychwanegol i’r Pwyllgor Archwilio. Cafwyd pedwar ymgeisydd, ac yn dilyn cyfweliad, argymhellwyd y dylid penodi Allan Rainford. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at grynodeb o yrfa Allan Rainford a atodwyd i’r adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, y byddai sgiliau a phrofiad Mr Rainford o fudd mawr i’r Pwyllgor ac roedd yn argymell yn gryf y dylid ei benodi fel yr aelod lleyg newydd i’r Pwyllgor Archwilio. Eiliodd y Cynghorydd Marion Bateman y cynnig. Derbyniwyd yr argymhelliad drwy bleidlais.
PENDERFYNWYD:
Penodi Allan Rainford i’r Pwyllgor Archwilio hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023.