Mater - cyfarfodydd

Progress for Providers Update

Cyfarfod: 03/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 22)

22 Diweddariad ar y Rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        Rhoidiweddariad ar y Rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu, adroddiad i ddarparu diweddariad ar raglen 'Gynnydd i Ddarparwyr - Creu rhywle a elwir yn Gartref …Darparu beth sy’n Bwysig’, gan gynnwys cyflwyno'r Rhaglen i ddarparwyr gofal cartref.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gwnaeth yr Uwch Reolwr egluro, er mwyn cydnabod y cynnydd roedd y cartrefi gofal yn ei gyflawni o ran gweithredu arferion gofal sy’n canolbwyntio ar unigolyn, roedd yr Awdurdod wedi datblygu ei becyn gwaith hunanasesu ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ ei hun.  Roedd y pecyn gwaith yn nodi disgwyliadau’r Awdurdod o ran darparu gofal unigol ac roedd yn cefnogi unigolion cyfrifol a rheolwyr ac arweinwyr mewn cartrefi drwy ddarparu amrywiaeth o adnoddau a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn a oedd yn helpu timau staff i newid y ffordd roeddent yn cefnogi pobl a sut roeddent yn ymgysylltu â theulu a ffrindiau. Roedd y pecyn gwaith ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ hefyd yn helpu darparwyr i hyrwyddo rhagor o ddewis a rheolaeth i’r rhai a oedd yn cael gofal a oedd yn caniatáu i ddarparwyr ganolbwyntio ar beth oedd bwysicaf i bob unigolyn.

 

Er mwyn dangos cynnydd, esboniodd yr Uwch Reolwr bod yr Awdurdod wedi cyflwyno 3 lefel o achrediad a gaiff eu dilysu gan Dîm Contract a Chomisiynu Sir y Fflint mewn partneriaeth â’r rheolwyr cartrefi gofal.Bydd achrediad Efydd, Arian ac Aur yn helpu rheolwyr i wirio eu cynnydd eu hunain a dangos yn gyhoeddus eu bod yn dal i wneud cynnydd ar hyd y ffordd i gynnig gofal sydd wir yn canolbwyntio ar yr unigolyn.Ym mis Medi 2018, enillodd y prosiect Wobr Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru am ‘ganlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygiad staff’. Roedd y prosiect hefyd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus – ‘Dathlu cyflawniad rhagorol ac arloesedd ym maes darparu gwasanaethau llywodraeth leol y DU’.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y cynnydd hyd yma a’r camau nesaf, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ynghylch cyfranogiad elusennau’r Lluoedd Arfog, esboniodd yr Uwch Reolwr bod nifer o ddathliadau wedi cael eu cynnal mewn cartrefi gofal i nodi digwyddiadau’r gorffennol a oedd wedi cael eu llywio gan y Lluoedd Arfog.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie ei longyfarchiadau i'r Prif Swyddog a'r Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu a’i thîm am eu gwaith a’u cyflawniadau. Cynigodd bod llythyr i'w anfon gan y Pwyllgor i fynegi ei gydnabyddiaeth a'i werthfawrogiad am y gwaith a gynhaliwyd.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei llongyfarchiadau ar y llwyddiant a gafwyd a gofynnodd a oedd modd rhoi mwy o gyhoeddusrwydd er cydnabyddiaeth y cartrefi gofal a oedd wedi ennill achrediad Efydd, Arian neu Aur. Teimlai y byddai hyn yn annog cartrefi gofal eraill i ymuno â'r Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD: 

 

 (a)     Bod y Pwyllgpr yn croesawu'r camau a’r arloesi sy’n cael eu gwneud i yrru’r Prosiect yn ei  ...  view the full Cofnodion text for item 22