Mater - cyfarfodydd

Continuing NHS Healthcare (CHC) in Wales Consultation

Cyfarfod: 18/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 16)

16 Ymgynghoriad Gofal Iechyd Parhaus y GIG yng Nghymru pdf icon PDF 230 KB

Pwrpas:  Darparu gwybodaeth i Aelodau ynghylch ymateb bwriedig y Cyngor i Ymgynghoriad Gofal Iechyd Parhaus Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu, adroddiad i ddarparu gwybodaeth ar ymatebion arfaethedig y Cyngor i ymgynghoriad CHC i Lywodraeth Cymru.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch Gofal Iechyd Parhaus yn Sir y Fflint, ymateb cyntaf Sir y Fflint i’r ymgynghoriad CHC Oedolion, ac ymateb cyntaf Sir y Fflint i ymgynghoriad CHC Plant a Phobl Ifanc. 

 

                        Gwahoddodd yr Uwch-Reolwr, Diogelu a Chomisiynu Gareth Jones, y Swyddog Cynllunio a Datblygu - Gwasanaethau Cymdeithasol i roi cyflwyniad ar  Fframwaith Cenedlaethol yr Ymgynghoriad Gofal Iechyd GIG Parhaus.  Roedd y cyflwyniad yn trafod y prif bwyntiau a ganlyn:

 

  • beth yw Gofal Iechyd Parhaus (CHC)
  • Ymgynghoriad CHC Oedolion – crynodeb o newidiadau (Llywodraeth Cymru)
  • safbwyntiau cychwynnol o weithlu (Oedolion) Sir y Fflint
  • sut mae meysydd gofal gwahanol yn cael eu rhannu i lefelau o angen
  • safbwyntiau ychwanegol ac adborth
  • gwahaniaeth rhwng ethos Taliadau Uniongyrchol
  • cyfraniad personol ychwanegol
  • safbwyntiau cyntaf gan weithlu Sir y Fflint (Plant a Phobl Ifanc)
  • y camau nesaf
  • argymhellion

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Jones am ei gyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Cunningham sylw ar y swm sy’n ddyledus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r Awdurdod, lle'r oedd y rhaniad yn y costau gofal a gytunwyd i CHC yn destun dadl gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Eglurodd yr Uwch-Reolwr, Diogelu a Chomisiynu bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd taliad yn dod i law pan fydd penderfyniad wedi’i nweud ar unrhyw achosion sy’n ddyledus.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a phryderon a godwyd gan y pwyllgor, cytunwyd y byddai’r Aelodau yn codi ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad drwy rwydweithiau proffesiynol a phersonol, a bod ymateb ar y cyd i’r ymgynghoriad yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor.

 

PENDERFYNIAD:

 

 (a)      Bod yr Aelodau yn ymwybodol o sefyllfa Sir y Fflint ac yn cael eu hysbysu’n ddigonol i ymateb i’r ymgynghoriadau fel unigolion;

 

(b)      Bod yr Aelodau yn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad â rhwydweithiau proffesiynol a phersonol; a

 

 (c)       Bod ymateb ar y cyd yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor.