Mater - cyfarfodydd

Improving the in-house offer for out of County Placements for Children

Cyfarfod: 25/07/2019 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 4)

4 Gwella'r cynnig mewnol ar gyfer plant sydd mewn lleoliadau y tu allan i'r sir pdf icon PDF 208 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar y cynigion i wella cynnig mewnol y ddarpariaeth lleoliadau y tu allan i'r sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ac esboniodd fod lleoliadau y tu allan i’r sir yn un o’r materion mwyaf sy’n wynebu pob Awdurdod Lleol ar draws y wlad. Esboniodd fod dod o hyd i ofal a chymorth o ansawdd da yn Sir y Fflint yn broblem fawr ac yn her i’r Cyngor gan nad oedd digon o adnoddau ar gael i ateb y galw statudol. Roedd y Cyngor yn gwbl gefnogol ond y swm o arian a oedd yn dod i mewn i’r Cyngor oedd y gwir broblem. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 37 o’r adroddiad a oedd yn amlinellu costau’r lleoliad ac esboniodd sut roedd hyn yn cael effaith ar gyllidebau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd llawer o waith yn cael ei wneud o fewn y portffolio, yn Sir y Fflint, Rhanbarth Gogledd Cymru ac yn ehangach, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn.

 

            Ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod hon yn her genedlaethol ac nad oes un ateb syml i’r broblem, a bod angen sawl haen o waith er mwyn gallu darparu gwahanol atebion a chynigion i nifer cynyddol o blant ag anghenion cymhleth. Rhoddodd enghreifftiau o sut roedd cymorth yn cael ei ddarparu yn y cartref, i aelodau’r teulu, maethu a gofal preswyl. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r amrywiaeth o fentrau roedd eu hangen er mwyn ail-lunio’r cynnig a gynigir i blant a theuluoedd a nodwyd bod rhoi cymorth yn fuan yn flaenoriaeth er mwyn galluogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd, hyd yn oed os nad oedd hynny bob amser yn bosibl mewn rhai achosion. Aeth ymlaen i gyfeirio’r Aelodau at dudalen 12 o’r adroddiad a rhoddodd wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi’r tair uchelgais graidd:-

 

·         Lleihau’n ddiogel nifer y plant y mae angen iddynt dderbyn gofal

·         Rhoi cymorth i blant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau lleol o ansawdd uchel

·         Gwella canlyniadau plant sy’n derbyn gofal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am esboniad pellach o’r term ‘sgiliau ochrol’ /‘side skill’ ym mhwynt 1.10 yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at nifer y plant 16 oed sydd wedi cael diffyg addysg neu sy’n gwrthod addysg a dywedodd pan fyddai unigolyn ifanc yn rhoi’r gorau i dderbyn addysg roedd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar y gofalwyr maeth ac yna’n rhoi straen ar y system gyfan. Roedd yn credu y dylid cyflwyno cynllun ar gyfer y bobl ifanc hyn a fyddai’n rhoi rhywbeth iddynt ei wneud os nad oeddynt mewn addysg, ac a fyddai’n rhoi gobaith iddynt i’r dyfodol.

 

            Ymatebodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) gan esbonio sut byddai gweithwyr ‘sgiliau ochrol’ yn gweithio gyda gweithwyr ieuenctid er enghraifft, gan eu bod nhw mewn sefyllfa dda i feithrin perthynas ac ennill ymddiriedaeth y bobl ifanc hyn yn fuan ac i sylwi pan fyddai’r sefyllfa’n dirywio.  Roedd y swyddogion hyn eisoes yn rhan o weithlu Sir y Fflint oedd yn gweithio gyda phlant ond roedd y dull gweithredu ‘sgiliau ochrol’ yn eu galluogi i nodi a chynnig cymorth therapiwtig a  ...  view the full Cofnodion text for item 4