Mater - cyfarfodydd
Alternative Delivery Models Phase 2
Cyfarfod: 09/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 23)
23 Modelau Darparu Amgen Cam 2 PDF 129 KB
Pwrpas: Nodi cynnwys yr adroddiad yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 16 Gorffennaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad a gyflwynwyd i geisio cefnogaeth y Pwyllgor. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r rhestr o flaenoriaethau ac roedd yna hefyd gysylltiadau gyda Chynllun y Cyngor. Yna rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf ar bob un o’r Modelau Cyflawni Amgen (ADM):-
· Gwasanaeth Monitro a Rheoli Teledu Cylch Cyfyng
· Theatr Clwyd.
· Gofal Micro (Gwasanaethau gofal cartref yn y gymuned)
· Gwasanaethau Masnachu Strydwedd a Chludiant
· Gwasanaethau Masnachu Cyfrif Refeniw Tai
· Menter Tlodi Bwyd
· Cwmni Ynni Gwyrdd
Gofynnodd y Cynghorydd David Wisinger y cwestiynau canlynol ar y profion MOT yn Alltami a chynnig i ddarparu gwasanaeth nwy a thrydan:-
· Oedd yna ddigon o le parcio i gleientiaid yn y Depo?
· A fyddai gwaith arall yn cael ei ystyried fel gwasanaethu cerbydau?
· Yngl?n â gwasanaethu nwy a thrydan a fyddai hyn yn cael ei wneud gan un swyddog?
Mewn ymateb i’r pwynt cyntaf, eglurodd y Prif Swyddog fod hyn yn parhau yn y camau cysyniad ond y cynnig oedd unwaith y byddai cerbydau’r Cyngor wedi gadael y depo yn y bore y byddai yna le ar gael i barcio yn y cefn wrth y gweithdy ar gyfer hyn. O ran y cwestiwn gwasanaethu ceir, dywedodd y byddai yna gyfleoedd i gynnwys gwaith arall ond nid oedd yn hysbys ar hyn o bryd gan fod y prosiect yn y cam cysyniad i’w ddatblygu ymhellach. Yngl?n â’r cynnig Gwasanaethu Nwy a Thrydan (Gwasanaethau Tai) dywedodd fod hyn eto yn y camau cynnar iawn ac y ceisir defnyddio a datblygu’r gwasanaeth o fewn y Sefydliad Llafur Uniongyrchol Tai. Dywedodd y Cynghorydd Wisinger fod hyn yn gam cadarnhaol iawn gan fod yna alw am y math yma o wasanaeth yn arbennig gan landlordiaid preifat.
Cyfeiriodd Geoff Collett at Theatr Clwyd a gofynnodd ai’r model arfaethedig oedd y mwyaf effeithiol o ran treth i’r Theatr. Cyfeiriodd at Sw Caer lle gofynnwyd i noddwyr arwyddo dogfen i alluogi’r Sw i hawlio 26% yn ôl gan y Llywodraeth. Nid oedd y Sw yn Fodel Ymddiriedolaeth Annibynnol ond gofynnwyd a fyddai’r Theatr yn gallu hawlio rhywfaint o dreth yn ôl fel y Sw.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r model yn galluogi’r Theatr i dderbyn buddion o’r Dreth Gorfforaeth a’r Dreth Ar Werth. Roedd yna gyfleoedd ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes, mynediad i gyllid elusennol ac alinio modelau cyflogaeth gyda theatrau eraill a fyddai hefyd yn fuddiol. Byddai hyn yn rhoi mwy o ryddid i’r Theatr gynllunio sut yr oeddent yn gweithredu. Roedd yna lawer o waith yn cael ei wneud ond byddai adroddiad manwl ar hyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn yr hydref.
Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am eglurhad ar y pwyntiau canlynol yngl?n â Model Cyflawni Amgen Gwasanaethau Masnachu Cyfrif Refeniw Tai
· A fyddai hyn yn cael ei sefydlu fel yr ADM Aura neu’n cael ei reoli gan y Cyngor?
· A fyddai hyn yn effeithio ar gyrff elusennol presennol eraill fel Gofal a Thrwsio ac a ellir ystyried partneriaeth gyda’r gweithredwyr hynny gan ei fod yn teimlo ei bod yn ... view the full Cofnodion text for item 23