Mater - cyfarfodydd

Regional Pool Agreement and Approval Report Template

Cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet (eitem 46)

46 Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartrefi Gofal i Bobl Hyn 2019-2020 pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:         Rhoi diweddariad i'r Cabinet ar waith Gr?p Cyllidebau Cyfun Gogledd Cymru a'r camau a gymerwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones y Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartref Gofal i Bobl H?n 2019/2020 a oedd yn cynghori ar y dull rhanbarthol arfaethedig o gyflawni gofynion cyfreithiol yr awdurdod o ran sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol.  Roedd hyn yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Cytundebau Partneriaeth (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2015).

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod angen penderfyniad i gymeradwyo’r dull gweithredu rhanbarthol ar gyfer sefydlu cronfa gyfun a rennir, heb risgiau, i’w chynnal gan Gyngor Sir Ddinbych ar ran y chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,  o ran y gwariant rhanbarthol ar swyddogaethau llety cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n.

 

                        Ni fyddai unrhyw swyddogaethau yn cael eu dirprwyo a oedd yn golygu y byddai pob partner yn cynnal cyfrifoldeb unigol llwyr ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau statudol o ran comisiynu a darparu gwasanaethau llety cartref gofal.  Byddai pob partner yn parhau i fod yn llwyr gyfrifol am eu cyllidebau a’u gwariant eu hunain.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I nodi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol i gyflawni gofynion Rhan 9 Deddf 2014, sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n;

 

(b)       Y dylid cymeradwyo sefydlu cronfa gyfun a rennir, heb risgiau, ar gyfer llety gofal cartref i bobl h?n, fel y’u nodir yn yr adroddiad, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel yr Awdurdod Cynnal, gyda’r trefniadau yn dod i rym ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20; a

 

(c)        Y dylid rhoi cymeradwyaeth i’r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, gan reoleiddio sefydliad, gweithrediad a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y gronfa gyfun am gyfnod o 3 blynedd.