Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2019/20 Part 2

Cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 22)

22 Cynllun y Cyngor 2019/20 Rhan 2 pdf icon PDF 164 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhan 2 o Gynllun y Cyngor - ar gerrig milltir perfformiad a mesurau ar gyfer y flwyddyn - a gwahodd adborth ar gyfer y Cabinet a fydd yn cymeradwyo'r ddogfen yn ddiweddarach yn y mis.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno Rhan 2 o Gynllun y Cyngor. Pwrpas hyn oedd rhannu cerrig milltir perfformiad a mesurau ar gyfer y flwyddyn a gwahodd adborth i’r Cabinet a fyddai’n ystyried y ddogfen yr wythnos ganlynol. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun. Roedd Rhan 1 o Gynllun y Cyngor wedi amlinellu bwriad y Cyngor, ac mae Rhan 2 yn cynnwys y mesurau perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir ar gyfer mesur a gwerthuso’r hyn a gyflawnir.

 

Soniodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu am yr wybodaeth yn yr adroddiad. Roedd yr hyn oedd angen ei gyflawni yn ystod 2019/20 yn cael ei ddisgrifio’n glir yn Rhan 1 o Gynllun y Cyngor. Roedd Rhan 2 yn sicrhau y gellid monitro cynnydd ac olrhain y cyflawniadau hynny. Y ddau fath o fesurau a fyddai’n cael eu defnyddio fyddai cerrig milltir ansoddol, pan oedd cynlluniau neu strategaethau i’w cyflawni, a mesurau mheintio a rhifiadol ar gyfer y targedau i’w cyflawni. Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn nodi dosbarthiad yr holl fesurau rhifiadol. Roedd cerrig milltir neu fesurau wedi’u gosod i fonitro cynnydd yn erbyn bob gweithgaredd neu gynllun. Roedd y risgiau i’w rheoli a’u lliniaru ar hyd yn flwyddyn wrthi’n cael eu hystyried a byddant yn cael sylw yn yr adroddiad monitro cyntaf. Dywedodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu y byddai data cymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru ar gael i gymharu ein sefyllfa yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr arddodiad Cylch Cyllid a Chynllunio Busnes a gyflwynwyd i gyfarfod o’r Pwyllgor ar 17 Ionawr 2019, a dywedodd fod y mesurau wedi’u nodi’n dda o ran y portffolio. Dywedodd ei fod yn cefnogi’r adroddiad ond soniodd fod angen i Gynllun y Cyngor gael mwy o ffocws a chael ei flaenoriaethu. Cyfeiriodd at y Cyngor Uchelgeisiol a dwedodd fod diffygion yn y ffordd yr oedd y Cyngor yn gwneud cynnydd gyda’r rhan honno o’r Cynllun. Mynegodd bryderon ynghylch y ffordd yr oedd isadeiledd priffyrdd yn cael ei reoli.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Heesom ar y rhwydwaith cludiant, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod yr Awdurdod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru (LlC) a Thrafnidiaeth Cymru. Gwahoddwyd y  Cynghorydd Heesom i gyfarfod i drafod ei bryderon gyda’r Prif Swyddog (Strydoedd a Chludiant) a hithau. 

 

Cydnabu’r Prif Weithredwr y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Heesom ynghylch rôl gyfyngedig y Cyngor mewn datblygiad economaidd ond pwysleisiodd mai dim ond y gwasanaethau hynny oedd yn swyddogaeth i’r Cyngor y gallai’r Cyngor eu cynnwys. Aeth ymlaen i ddweud bod popeth oedd yn y Cynllun yn cael blaenoriaeth gyfartal ac mai ein cydgyfrifoldeb oedd sicrhau’r cerrig milltir a’r mesurau. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at Gynllun y Cyngor (Rhan 2) 2019/20, oedd wedi’i atodi i’r adroddiad, a gofynnodd beth oedd nodau ac amcanion y fframwaith gwerth cymdeithasol. Dywedodd y gallai’r fframwaith gwerth cymdeithasol olygu nifer o bethau i wahanol bobl. Dywedodd ei fod yn rhan bwysig o Gynllun y Cyngor a gwnaeth gais i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 22