Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy (MTFS) and the Work of the Cross Party Group on Local Government Finance

Cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 24)

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a gwaith y Grwp Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol

Pwrpas:        Derbyn diweddariad llafar ar sefyllfa'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, y sefyllfa genedlaethol ar gyllidebau, a chwblhau gwaith y Gr?p Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llafar ar sefyllfa’r Strategaeth

Ariannol Tymor Canolig (MTFS), y sefyllfa genedlaethol ar gyllidebau, a chwblhau gwaith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol. Rhoddodd gyflwyniad ar y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

 

·         ein cyd-destun

·         pwrpas y Gr?p

·         gwaith hyd yma

·         adnoddau ar gael

·         sefyllfa gyffredinol

·         dadlau’r achos

·         crynodeb o bwysau ariannol

·         mynegeio ar gyfer chwyddiant - ysgolion

·         mynegeio ar gyfer chwyddiant – ar wahân i ysgolion

·         proses gyllidebol

·         camau nesaf yn syth

 

Yn ystod y cyflwyniad cyfeiriodd y Prif Weithredwr at adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ‘Wedi cyrraedd y pwynt tyngedfennol’ gan awgrymu y byddai o ddiddordeb i Aelodau. Cytunwyd i gylchredeg yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at waith y Gweithgor Trawsbleidiol o ran y fformwla ariannu a gofynnodd a oedd cyfle i edrych ar ddyrannu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ar draws awdurdodau lleol yn seiliedig ar bwysoliad ac amddifadedd. Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Shotton a chyfeiriodd at yr angen i ystyried y gyllideb yn gyffredinol. Dywedodd bod cyfeiriad wedi bod yn y Gweithgor Trawsbleidiol at fwy o resymeg yngl?n â chostau sylfaenol ar gyfer ysgolion. Dywedodd Carolyn Thomas fod rhai o’r ysgolion yn Sir y Fflint ar y lefelau ariannu isaf yng Nghymru ac ailadroddodd ei bod yn bwysig i ysgolion gael llinell sylfaenol ariannol wrth symud ymlaen. Dywedodd y byddai’n dadlau’r achos dros gyllid i Addysg yng nghyfarfod Pwyllgor Gwaith CLlLC yr wythnos nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom, yn ei farn ef fod angen persbectif gwahanol a dull o bwysoli neu flaenoriaethu pwysau penodol nad oedd yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd. Dywedodd fod ganddo bryderon nad oedd dadgyfuno yn yr Awdurdod o bosibl yn seiliedig ar newid ac nad oedd y ffordd yr oedd rhai gwasanaethau wedi dadgyfuno o gymorth. Hefyd dywedodd bod angen mwy o ymwybyddiaeth o’r gwariant mewn portffolios. Croesawodd waith y Gweithgor Trawsbleidiol ond dywedodd fod yn rhaid i’r Awdurdod  fod yn fwy democrataidd a gweithio o’r canol wrth ddadgyfuno gwasanaethau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar waith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol a’r cyflwyniad.