Mater - cyfarfodydd

Review of Streetscene Standards

Cyfarfod: 09/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 14)

14 Adolygiad o Safonau Strydwedd pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Ceisio argymhelliad gan y pwyllgor ar gyfer y safonau gweithredol Strydwedd a Chludiant a fydd yn cael eu hadrodd yn eu cylch fel rhan o’r cynllun chwarterol ar gyfer perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofyn am argymhelliad i’r Cabinet fabwysiadu’r safonau gwasanaeth Strydwedd a gafodd eu diweddaru ar ôl eu hadolygu. Perfformiad yn erbyn safonau – o dan y thema Cyngor Diogel a Glân yng Nghynllun y Cyngor 2019 – yn cael eu hadrodd fel rhan o broses monitro perfformiad newydd.

 

Yn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bibby, fe gytunodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i ddarparu eglurhad bellach ar y cemegau a ganiateir i’w defnyddio ar gyfer cael gwared ar graffiti.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Connah i gael gwared ar rai o’r safonau. Cafodd ei hysbysu y byddai ymatebion i reoli pla yn parhau i gael eu monitro a bod biniau gwastraff/bocsys ailgylchu newydd yn cael eu casglu o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T?.

 

Roedd gan y Cynghorydd Dolphin bryderon am gasgliadau bin heb eu casglu fwy nag unwaith, weithiau yn golygu ffordd gyfan. Yn ymateb i’r cwestiynau fe eglurodd y Prif Swyddog fod Goruchwylwyr Strydwedd ar gais yn gallu ymweld â Chynghorau Tref a Chymuned. Rhannodd ei rwystredigaethau am yr oedi gyda’r gwaith ar y goleuadau stryd gan Scottish Power a oedd allan o ddwylo’r Cyngor.

 

Yn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Evans fe eglurodd y Prif Swyddog y broses o gael gwared ar wrthrychau miniog oddi ar dir sy’n eiddo’r Cyngor a’r targedau ar gyfer glanhau strydoedd fel y cytunwyd gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd hefyd am yr uchafswm amser sydd ei angen i brosesu ceisiadau i gael cefnogaeth gyda chasglu biniau a’r gweithdrefn 3-cam a gytunwyd arno i ddelio gydag achosion o wastraff sy’n cael ei osod ar dop neu wrth ochr biniau.

 

Yn ôl cais y Cynghorydd Hardcastle cafwyd eglurhad manwl o’r broses tipio anghyfreithlon gan y Prif Swyddog gan adrodd nad oedd cynnydd yn y nifer o achosion.

 

Dyma’r Cynghorydd Chris Bithell yn annog Aelodau i godi ymwybyddiaeth o dîm Rheoli Pla y Cyngor oedd yn darparu gwasanaeth effeithiol i breswylwyr. Pan ofynnodd y Cynghorydd Gay am y meini prawf eithriedig ar gyfer y newidiadau hyn fe gytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) i ddosbarthu’r manylion.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu’r safonau gwasanaeth Strydwedd yn Atodiad 1 o’r adroddiad, gan gynnwys yr ychwanegiadau a’r agweddau i’w dileu a gynigir i’r rhestr ddiwygiedig o ganlyniad i’r newidiadau yn y portffolio.