Mater - cyfarfodydd

Centrally Held Budgets and Corporate Finance

Cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 25)

25 Cyllidebau Canolog a Chyllid Corfforaethol pdf icon PDF 183 KB

Pwrpas:        Rhoi manylion i’r Aelodau am y gyllideb ganolog a chorfforaethol yn ôl y gofyniad yn y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad yn darparu gwybodaeth ac eglurhad am y penawdau cyllideb penodol oedd yn y cyllidebau canolog a chorfforaethol, yn unol â’r cais yn y cyfarfod blaenorol. Roedd y Gyllideb Ganolog a Chorfforaethol ar gyfer 2019/20 yn £23.498m ac yn 9% o gyllideb gyffredinol Cronfa’r Cyngor o £264m.  Yn gyffredinol roedd y Gyllideb Cyllid Canolog a Chorfforaethol yn cynnwys costau canolog y sefydliad canolog ar gyfer y Cyngor nad oedd i’w priodoli’n uniongyrchol i bortffolios a gwasanaethau unigol.   

 

Darparodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r maes cyllidebol hwn yn seiliedig ar gyllideb 2019/20 o £23.498m.  Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi cefndir pellach i’r holl Aelodau cyn dechrau monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 ac fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor yn nodi’r esboniadau a roddwyd.