Mater - cyfarfodydd
Flintshire Food Enterprise and the Food Poverty Response
Cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet (eitem 49)
Menter Bwyd Sir y Fflint ac Ymateb i’r Tlodi Bwyd
Pwrpas: Cael cymeradwyaeth mewn egwyddor gan y Cabinet i fuddsoddi yn y Fenter.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes adroddiad Mentrau Bwyd a Thlodi Bwyd Sir y Fflint, a oedd yn darparu manylion model busnes arfaethedig ar gyfer busnes menter gymdeithasol newydd lle byddai gan bob partner hawliau cyfartal ar gyfer rheoli a chyflenwi’r gweithrediad.
Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad a’r cynigion ac y byddent yn croesawu adroddiad diweddaru ar gam diweddarach.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cytuno mewn egwyddor i barhau â’r model Menter Gymdeithasol newydd a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i leihau tlodi bwyd yn y Sir.