Mater - cyfarfodydd

Annual Improvement Report 2018/19 of the Auditor General for Wales

Cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet (eitem 32)

32 Adroddiad Gwella Blynyddol 2018/19 pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:         I gael sicrwydd o Adroddiad Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cyflwyno crynodeb o’r gwaith archwilio a rheoleiddio a gynhaliwyd yn y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ym mis Tachwedd 2018.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyflwyno casgliad cadarnhaol ar y cyfan bod “Y Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol mewn cysylltiad â gwella parhaus ond, fel yn achos pob cyngor yng Nghymru, mae’n wynebu heriau wrth symud ymlaen”.

 

Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol, fodd bynnag, cafwyd amlinelliad o nifer o gynigion gwella gwirfoddol yn yr adroddiad.  Cyflwynwyd ymateb y Cyngor i’r cynigion yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, esboniodd y Prif Swyddog bod gwybodaeth am y nifer o Dai Amlfeddiannaeth wedi’i dosbarthu i’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cynllun Gwella Blynyddol ar gyfer 2018/19 Archwilydd Cyffredinol Cymru yn darparu sicrwydd i’r Cabinet.