Mater - cyfarfodydd

Corporate Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud and Irregularity Response Plan

Cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 5)

5 Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygred corfforaethol a Chynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra pdf icon PDF 87 KB

Amlinellu'r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra diwygiedig i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Archwilio Mewnol a esboniodd y gwahaniaethau rhwng yr hen bolisi a'r polisi newydd. Yna, gwahoddwyd cwestiynau gan y Cadeirydd.

 

            Cododd y Cynghorydd Chris Bithell fater Treth Gyngor yn ddiweddar ac ymatebodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod hwn yn fater Safonau Masnach.

 

            Yna cododd yr aelodau nifer o gwestiynau yr ymatebodd y Rheolwr Archwilio Mewnol iddynt, gan ymrwymo i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r ddogfen. Cadarnhawyd y byddai hyfforddiant Aelodau i gefnogi'r polisi diwygiedig ar gael maes o law.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)           Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Archwilio ar gyfer y Strategaeth Gwrth-Dwyll a Llygredd Corfforaethol; a

 

b)           Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Archwilio ar gyfer y Cynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra.