Mater - cyfarfodydd

Mold to Broughton Cycleway

Cyfarfod: 21/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 6)

6 Llwybr Beiciau'r Wyddgrug i Frychdyn pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ceisio argymhelliad i’r Cabinet ar gyfer cyflwyno cynigion am gyllid i adeiladu llwybr beiciau i gysylltu’r Wyddgrug a Brychdyn dan gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn ceisio argymhelliad i’r Cabinet i gyflwyno cynllun llwybr beicio'r Wyddgrug i Frychdyn ar gyfer cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.   Yn ystod yr ymgynghoriad statudol, roedd y llwybr cyswllt wedi’i nodi fel coridor strategol allweddol ar Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.   Roedd y cyllid a gafwyd yn 2018/19 wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu gwaith ar werthusiad o ddewisiadau llwybr a gwblhawyd yn awr, ac roedd dyluniad manwl y cynllun bron â’i orffen.

 

Roedd y cynllun yn rhan o Strategaeth Trafnidiaeth Integredig y Cyngor - a oedd yn ceisio hwyluso integreiddio'r holl ddulliau o deithio (cerdded, beicio, bws a rheilffordd) i wella mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau hanfodol.   Byddai diweddariad ar y Strategaeth yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf.   Roedd cyhoeddiadau diweddar ar gyllid grant trafnidiaeth lleol LlC yn cynnwys £5.4m ar gyfer Sir y Fflint (un o’r setliadau uchaf yng Nghymru) i’w fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth lleol ynghyd â darparu buddion hir dymor a chyfleoedd cyflogaeth.

 

 Eglurodd y Rheolwr Cludiant mai nod y cynllun llwybr beicio oedd cysylltu cymunedau'r Wyddgrug, Bwcle, Penyffordd, Brychdyn, Saltney a Sandycroft wrth ddarparu cysylltiadau i orsafoedd rheilffordd presennol Bwcle a Phenyffordd i ddarparu mynediad cynaliadwy at brif safleoedd cyflogaeth.

 

Darparodd y Swyddog Polisi Priffyrdd drosolwg o’r llwybr beicio arfaethedig gan gynnwys y dewisiadau sydd ar gael a'r datrysiadau rheoli traffig lle bo'n briodol.   Roedd y llwybr hefyd yn darparu cyswllt da gyda Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a rheilffordd Wrecsam – Bidston.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y gwnaed cynnydd da i gwblhau llwybr beicio Saltney a oedd yn un o'r cysylltiadau ar y llwybr.   Byddai rhannu manylion y llwybr yn gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun arloesol i gysylltu cymunedau a darparu datrysiad cludiant cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Wrth drafod llwyddiant y Cyngor i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau o dan Deithio Llesol a Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau, canmolodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y swyddogion a nodi y gallai’r llwybr beicio fod yn gynllun blaenllaw ar gyfer y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid y cynllun a fyddai o fudd i’r nifer cynyddol o feicwyr.   Croesawodd y cysylltiadau gyda rheilffordd Wrecsam - Bidston a nododd bod y Prif Swyddog yn aelod o'r gr?p llywio hwnnw.   O ran cyllid, eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod y cyllid ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’i dderbyn a gellir defnyddio rhywfaint o'r cyllid eleni ar gyfer darnau o'r llwybr.   Byddai ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno ar ôl cwblhau’r dyluniad manwl.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y ddau Brif Swyddog ar y cynnydd a wnaed hyd yma.   Tynnodd sylw at bwysigrwydd cysylltedd gyda phentrefi gwledig, er enghraifft Gorsedd i Bantasaph.   Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cyllid grant yn amodol ar feini prawf.   Wrth gydnabod anghenion cymunedau gwledig, eglurodd bod ffrydiau cyllid gwahanol yn cael eu harchwilio i ddarparu cysylltiadau bws i ardaloedd gwledig.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Joe Johnson a Bob Connah y dewisiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 6