Mater - cyfarfodydd
Mold to Broughton Cycleway
Cyfarfod: 21/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 6)
6 Llwybr Beiciau'r Wyddgrug i Frychdyn PDF 93 KB
Pwrpas: Ceisio argymhelliad i’r Cabinet ar gyfer cyflwyno cynigion am gyllid i adeiladu llwybr beiciau i gysylltu’r Wyddgrug a Brychdyn dan gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn ceisio argymhelliad i’r Cabinet i gyflwyno cynllun llwybr beicio'r Wyddgrug i Frychdyn ar gyfer cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Yn ystod yr ymgynghoriad statudol, roedd y llwybr cyswllt wedi’i nodi fel coridor strategol allweddol ar Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y cyllid a gafwyd yn 2018/19 wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu gwaith ar werthusiad o ddewisiadau llwybr a gwblhawyd yn awr, ac roedd dyluniad manwl y cynllun bron â’i orffen.
Roedd y cynllun yn rhan o Strategaeth Trafnidiaeth Integredig y Cyngor - a oedd yn ceisio hwyluso integreiddio'r holl ddulliau o deithio (cerdded, beicio, bws a rheilffordd) i wella mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau hanfodol. Byddai diweddariad ar y Strategaeth yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf. Roedd cyhoeddiadau diweddar ar gyllid grant trafnidiaeth lleol LlC yn cynnwys £5.4m ar gyfer Sir y Fflint (un o’r setliadau uchaf yng Nghymru) i’w fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth lleol ynghyd â darparu buddion hir dymor a chyfleoedd cyflogaeth.
Eglurodd y Rheolwr Cludiant mai nod y cynllun llwybr beicio oedd cysylltu cymunedau'r Wyddgrug, Bwcle, Penyffordd, Brychdyn, Saltney a Sandycroft wrth ddarparu cysylltiadau i orsafoedd rheilffordd presennol Bwcle a Phenyffordd i ddarparu mynediad cynaliadwy at brif safleoedd cyflogaeth.
Darparodd y Swyddog Polisi Priffyrdd drosolwg o’r llwybr beicio arfaethedig gan gynnwys y dewisiadau sydd ar gael a'r datrysiadau rheoli traffig lle bo'n briodol. Roedd y llwybr hefyd yn darparu cyswllt da gyda Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a rheilffordd Wrecsam – Bidston.
Eglurodd y Prif Swyddog y gwnaed cynnydd da i gwblhau llwybr beicio Saltney a oedd yn un o'r cysylltiadau ar y llwybr. Byddai rhannu manylion y llwybr yn gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun arloesol i gysylltu cymunedau a darparu datrysiad cludiant cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Wrth drafod llwyddiant y Cyngor i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau o dan Deithio Llesol a Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau, canmolodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y swyddogion a nodi y gallai’r llwybr beicio fod yn gynllun blaenllaw ar gyfer y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid y cynllun a fyddai o fudd i’r nifer cynyddol o feicwyr. Croesawodd y cysylltiadau gyda rheilffordd Wrecsam - Bidston a nododd bod y Prif Swyddog yn aelod o'r gr?p llywio hwnnw. O ran cyllid, eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod y cyllid ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’i dderbyn a gellir defnyddio rhywfaint o'r cyllid eleni ar gyfer darnau o'r llwybr. Byddai ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno ar ôl cwblhau’r dyluniad manwl.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y ddau Brif Swyddog ar y cynnydd a wnaed hyd yma. Tynnodd sylw at bwysigrwydd cysylltedd gyda phentrefi gwledig, er enghraifft Gorsedd i Bantasaph. Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cyllid grant yn amodol ar feini prawf. Wrth gydnabod anghenion cymunedau gwledig, eglurodd bod ffrydiau cyllid gwahanol yn cael eu harchwilio i ddarparu cysylltiadau bws i ardaloedd gwledig.
Croesawodd y Cynghorwyr Joe Johnson a Bob Connah y dewisiadau ... view the full Cofnodion text for item 6