Mater - cyfarfodydd

Annual Governance Statement 2018/19

Cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 6)

6 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2018/19 pdf icon PDF 87 KB

Cael adolygiad blynyddol o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol i’w ardystio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2018/19, er mwyn i’r Pwyllgor argymell bod y Cyngor Sir yn ei gymeradwyo ynghyd â’r Datganiad Cyfrifon. Roedd y drefn o lunio’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cynnwys ymgynghori â Swyddogion Statudol a Phrif Swyddogion, Rheolwyr Gwasanaeth a Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu, dan oruchwyliaeth y Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

Roedd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn seiliedig ar y saith egwyddor llywodraethu da, a chafodd y Cyngor sgôr o 3 (derbyniol) ac uwch ar gyfer pob un. Amlygwyd meysydd o gryfder gydol y ddogfen.  Roedd y meysydd a nodwyd i’w gwella’n deillio o bedair ffynhonnell, gan gynnwys y risgiau oedd yn dal yn ‘goch’ yn adroddiad diwedd blwyddyn 2018/19 ynghylch Cynllun y Cyngor, yn hytrach na 2017/18 fel oedd wedi’i nodi. Cyflwynwyd hefyd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r cynnydd yn y meysydd i’w gwella a nodwyd yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18. Drwy gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ganol y flwyddyn câi’r Pwyllgor sicrwydd fod y Cyngor yn monitro’r risgiau a mynd i’r afael â hwy.

 

Wrth ddiolch i’r tîm am y gwaith a wnaed ar y ddogfen gymhleth hon, dywedodd y Prif Weithredwr mai’r nod oedd ceisio gwelliant parhaus, hyd yn oed pan gyflawnwyd sgôr derbyniol. Roedd y dangosfwrdd yn amlygu’r pryderon pennaf, sef gallu i gyflawni ac adnoddau. Er na fwriedid i’r asesiad yn ôl Egwyddor A fod yn feirniadol, roedd angen rhoi darlun cywir o ymddygiad a diwylliant y sefydliad. Y nod oedd gwella safonau ymddygiad, ac fe gyflawnwyd hynny drwy gynnal trafodaethau rhwng Arweinwyr Grwpiau, swyddogion a Chadeirydd y Cyngor. Roed y Prif Weithredwr yn falch o weld yr ymrwymiad i wella yn y meysydd a nodwyd, a rhoes glod i eraill a oedd wedi dangos arferion gorau.

 

Roedd Sally Ellis yn falch bod y Prif Weithredwr yn cydnabod y materion dan sylw. Er nad oedd ganddi bryderon o bwys, amlygodd mor bwysig oedd perchnogi camau gweithredu. Yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Swyddog Monitro, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at yr amryw godau a phrotocolau yngl?n ag ymddygiad derbyniol, ac wrth drafod cyfeiriodd aelodau o’r Pwyllgor at gymryd perchnogaeth dros y safonau hynny ac annog pawb i’w cyflawni.

 

O ran cynllunio’r gweithlu, roedd y Prif Weithredwr a’r Uwch-reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn arwain y camau gweithredu yn y Strategaeth Pobl, ac roedd yr holl Brif Swyddogion wedi’u perchnogi hefyd.  Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran cynllunio ar gyfer olyniaeth, roedd yno risgiau oherwydd strwythur darbodus y Cyngor a goblygiadau materion allanol megis recriwtio ym maes Tai.  Byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r Strategaeth Pobl, gan gynnwys cynllunio’r gweithlu.

 

O ran Egwyddor F yngl?n â rheoli newid, cydnabu Sally’r gwaith ar reoli risg, ond roedd hi’n pryderu ynghylch nifer yr adroddiadau archwilio ‘coch’ a’r trafferthion o ran gweithredu a thrawsnewid.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai mater o raddfa oedd hyn, a soniodd am hanes llwyddiannus y Cyngor wrth drawsnewid a gwneud newidiadau mawr mewn polisïau a  ...  view the full Cofnodion text for item 6