Mater - cyfarfodydd

School Organisation - Lixwm Community Primary School Consultation on the proposed change of designation from a Community to a Voluntary Aided School

Cyfarfod: 14/05/2019 - Cabinet (eitem 5)

5 Trefniadaeth Ysgol - Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm - Ymgynghoriad ar y newid arfaethedig i ddynodiad o Ysgol Gymunedol i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I wneud cais bod y Cabinet yn cytuno i ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Sefydliadau Ysgolion (Cymru) 2018 ar gynnig i newid dynodiad Ysgol Gynradd Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth am y newid arfaethedig  i ddynodiad o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

 

                        Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi bod yn ystyried atebion cynaliadwy i gynnal eu hysgol yn ei chymunedol leol gydag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a’r Cyngor. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet i beidio â chyfuno Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm ag Ysgol Gynradd Gymunedol Brynford.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y gwaith hwn wedi arwain at gytundeb rhwng Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm a Llywodraethwyr Ysgol Yr Esgob wirfoddol a gynorthwyir i geisio ffurfio ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol. Fodd bynnag, nid yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn caniatáu i ysgolion ffydd na rhai sy’n seiliedig ar ymddiriedolaeth i ffedereiddio ag ysgolion cymunedol. Felly roedd angen i’r Cyngor ymgynghori ar newid arfaethedig i ddynodiad o Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018.

 

                        Diolchodd y Prif Swyddog i’r Awdurdod Esgobaethol am eu rhan weithgar yn y trafodaethau gyda’r Cyngor a’r Ysgolion ac am gefnogi’r strategaeth arfaethedig. 

 

                        Mae’r amserlen a ragwelir ar gyfer y broses ymgynghori arfaethedig wedi’i hatodi i’r adroddiad.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn fodlon fod Corff Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi ystyried modelau addas a chanlyniadau i ddarparu addysg yn ardal Licswm; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018 ar gynnig i newid i ddynodiad o Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir i hwyluso ffederaleiddio yn y dyfodol.