Mater - cyfarfodydd

Member Development & Engagement

Cyfarfod: 11/04/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 25)

25 Datblygu ac Ymgysylltu Aelodau pdf icon PDF 76 KB

Darparu diweddariad i’r pwyllgor.

 

Cofnodion:

                        Adroddiad cynnydd oedd hwn a gyflwynwyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a oedd wedi cael eu cynnal ers yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor ar 17 Hydref 2018.  Cyfeiriodd yr Aelodau at bwynt 1.02 yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r gweithdai a’r sesiynau briffio a oedd wedi cael eu cynnal ers mis Hydref. Cwmpaswyd amrywiaeth o bynciau ac roedd y lefelau presenoldeb yn well mewn rhai gweithdai nag eraill ac yn anffodus bu’n rhaid canslo dau allan o dri o'r sesiynau’r Iaith Gymraeg gan nad oedd digon o Aelodau yn mynychu i gyfiawnhau cynnal tri sesiwn.  Roedd y Gweithdy Deall Adroddiadau Perfformiad wedi’i ail-drefnu ar gyfer 29 Ebrill am 10.00 am.

 

            Roedd y Cynghorydd Bithell yn siomedig ag ymateb Aelodau i’r Sesiynau Iaith Gymraeg gan fod hon yn fenter genedlaethol i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dywedodd ei fod yn gyflwyniad ardderchog i’r saith Aelod a fynychodd ond dywedodd nad oedd yn adlewyrchiad da o’r Cyngor.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod 63 allan o 70 Aelod wedi llenwi Holiadur yr Iaith Gymraeg yn hydref y llynedd a oedd yn uwch na’r rhan fwyaf o awdurdodau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Healey am wybodaeth yngl?n â’r broses ar gyfer awgrymu gweithdai yn y dyfodol a dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallai unrhyw Aelod awgrymu gweithdy ac y byddai'n cael ei ystyried. Cyfeiriodd y Cynghorydd Healey wedyn at fformiwla ariannu Cymru sy’n cael ei rannu’n 70 o ddangosyddion a dywedodd bod angen trafodaethau i ddatblygu strategaeth ar gyfer hyn. Mewn ymateb cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gyfeirio hyn at y gweithgor trawsbleidiol ar gyfer cyllid llywodraeth leol a gafodd ei gyfarfod cyntaf yn ddiweddarach yn y mis. Gallai ragweld gweithdai yn dod o’r gweithgor hwn yn y dyfodol. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at gyfarfod Arweinwyr Gr?p lle trafodwyd lefelau presenoldeb gwael mewn gweithdai. Awgrymodd ef y byddai’n fanteisiol pe bai Aelodau yn deall pam fod y gweithdy’n cael ei gynnal, pwy oedd wedi gofyn iddo gael ei gynnal a’r nod a’r budd o’i gynnal. Daeth y gweithdai o gyfarfodydd cyllideb neu gyfarfodydd Pwyllgor a byddai’n fuddiol i Aelodau gael y wybodaeth hon. O ran y sesiynau Iaith Gymraeg, teimlai mai dewis personol i Aelodau fyddai hynny i benderfynu a fyddent o gymorth iddynt yn eu rôl fel Cynghorydd. Pe bai Aelodau yn deall yr hyn sy’n ofynnol ganddynt fel Cynghorwyr a’u rhwymedigaethau i Lywodraeth Cymru (LlC) o dan Ddeddf yr Iaith, efallai y byddai mwy ohonynt wedi mynychu.

 

            Mewn ymateb i hyn dywedodd y Prif Swyddog bod rhwymedigaethau’r Cyngor yn cael eu gosod allan ym mholisi'r Cyngor a gobeithiai y byddai Aelodau’n cefnogi'r Cyngor i ddeall y materion sy'n gysylltiedig ag iaith a'r effeithiau hyd yn oed os nad oeddent yn dymuno dysgu'r iaith fel gwneuthurwyr polisi.   Ychwanegodd y Cynghorydd Peers bod hyn yn atgyfnerthu ei sylw cynharach bod angen darparu mwy o wybodaeth i Aelodau yngl?n â phwrpas y Gweithdy. Dywedodd y Cynghorydd Bithell nad sesiynau Cymraeg  ...  view the full Cofnodion text for item 25