Mater - cyfarfodydd
Welsh Language Promotion Strategy
Cyfarfod: 19/03/2019 - Cabinet (eitem 324)
324 Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg PDF 99 KB
Pwrpas: Cyflwyno drafft terfynol y Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg i’w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 Welsh Language Promotion Strategy 2019 - 2024, eitem 324 PDF 447 KB
- Appendix 2 Results from Consultation, eitem 324 PDF 71 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg a oedd yn manylu Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg derfynol bum mlynedd o hyd ar gyfer Sir y Fflint.
Nododd y strategaeth sut y gallai’r Cyngor weithio gydag asiantaethau partner ac eraill yn y gymuned fel Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau i hyrwyddo’r Gymraeg.
Eglurodd y Prif Weithredwr y gellid archwilio’r posibilrwydd o gael dull partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i adeiladu ar waith y Fforwm Iaith Gymraeg bresennol a hwylusir gan y Fenter Iaith, gyda’r nod o ail-ganolbwyntio ei weithgareddau ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws Sir y Fflint a Wrecsam. Cafodd y strategaeth groeso brwd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg, cyn ei chyhoeddi a’i rhoi ar waith;
(b) Dylid cefnogi adolygiad o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Menter Iaith Fflint a Wrecsam a budd-ddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu fforwm isranbarthol i fonitro cynnydd Strategaethau Hyrwyddo’r Gymraeg y ddwy sir; a
(c) Dylid llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd gyda’r Strategaeth i gynnwys adolygu ac adfywio’r cynllun gweithredu.