Mater - cyfarfodydd
Schedule of Meetings 2019/20
Cyfarfod: 07/05/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 11)
11 Amserlen o Gyfarfodydd PDF 68 KB
Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2019/20.
Dogfennau ychwanegol:
- Schedule of Meetings 2019-20 - draft schedule of meetings, eitem 11 PDF 133 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Amserlen o Gyfarfodydd
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer 2019/20 ar ôl ymgynghori. Er y gwnaed pob ymdrech i osgoi cyd-drawiad â chyfarfodydd eraill, awgrymodd y dylid symud cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ar 21 Hydref i 28 Hydref rhag iddo gyd-daro â chyfarfod o’r Awdurdod Tân. Awgrymodd hefyd y dylid symud y Cyfarfod blynyddol (AGM) i 5 Mai 2020 i ganiatáu amser ar ôl yr ?yl Banc.
Ar y pwynt diwethaf, cytunodd y Prif Weithredwr ag awgrym y Cynghorydd Mike Peers y dylid symud y Cyfarfod blynyddol i 7 Mai 2020 a bod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei aildrefnu.
Gofynnodd y Cynghorydd David Healey i’r Rhestr gynnwys cydgyfarfod rhwng Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, er mwyn ystyried eitemau a oedd yn rhychwantu cylch gorchwyl y ddau.
Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai Cadeiryddion y ddau Bwyllgor gytuno ar amlder y cyfryw gyd-gyfarfodydd ar ôl i’r penodiadau gael eu gwneud.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r rhestr ddrafft o’r cyfarfodydd ar gyfer 2019/20, yn amodol ar y newidiadau arfaethedig.