Mater - cyfarfodydd

Constitutional Matters: Committees

Cyfarfod: 07/05/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 9)

9 Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cyngor yn ystyried adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion yr oedd gofyn gwneud penderfyniad arnynt yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir yn unol â Rheol 1.1 (vii) – (xiv) o Weithdrefnau’r Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn delio ag un penderfyniad yr oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar bob adran yn ei thro.

 

 (i)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn darparu ar gyfer penodi’r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Roedd angen penodi’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu hefyd fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad yngl?n â’r angen i benodi Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu pan oedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi’i sefydlu. Dywedodd y Prif Swyddog, er bod y Pwyllgor Safonau’n ystyried unrhyw achosion o gynghorwyr yn torri’r Cod Ymddygiad, roedd yn ofynnol sefydlu pwyllgor ar wahân i ystyried materion disgyblu yn ymwneud â swyddogion, yn benodol y swyddogion statudol a enwyd fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am fanylion y swyddogion y byddai hyn yn berthnasol iddynt. Cytunodd y Prif Swyddog i gyflenwi enw’r swyddogion yr oedd eu swyddi wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir ym mharagraff 1.01

Pwyllgor Cwynion (penodwyd ar 9 Ebrill 2019)

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

 

 (ii)       Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod angen penderfynu ar faint pob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Roedd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau i’w gweld yn yr adroddiad, gan gynnwys argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio i gynyddu ei faint i ganiatáu derbyn aelod lleyg ychwanegol.

 

Wrth gyfeirio at bwysigrwydd y Pwyllgor Archwilio, galwodd y Cynghorydd Heesom am roi ystyriaeth bellach i faint ei aelodaeth i gynnwys cynrychiolaeth ehangach ymysg yr Aelodau, yn enwedig os ceid cynnydd yn nifer yr aelodau lleyg.  Gofynnodd a fyddai’r Arweinydd yn ystyried gohirio penderfyniad ar y pwyllgor penodol hwnnw er mwyn caniatáu amser i drafod ymhellach.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y byddai penderfyniad o’r fath yn arwain at ohirio cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar yr eitem yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Mehefin.

 

O ran y cyfyngiadau deddfwriaethol ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio, tynnodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at y rheolau ar gynrychiolaeth wardiau Aelodau amryfal fel y nodir yn adran Cydbwysedd Gwleidyddol yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Heesom, cydnabu’r Cynghorydd Roberts fanteision cael aelodau lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgorau a chynigiodd fod nifer y  ...  view the full Cofnodion text for item 9