Mater - cyfarfodydd

Sheltered Accommodation Review

Cyfarfod: 19/03/2019 - Cabinet (eitem 328)

328 Adolygiad Llety Gwarchod pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo cymhwysedd holl grwpiau bychain a chynlluniau gwarchod i ddod â hwy yn unol â Chymdeithasau Tai a Phartneriaid SARTH Awdurdod Lleol.

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad Adolygiad Llety Gwarchod ac eglurodd fod Llety Gwarchod y Cyngor ar hyn o bryd ar gyfer pobl dros 60 oed ac roedd y llety gr?p bychan ar gyfer pobl dros 50 oed.  

 

            Fodd bynnag, roedd meini prawf oedran y Cyngor yn fater gweithredol, gan fod meini prawf oedran y Cymdeithasau Tai dros 55 oed, gan arwain at dri gwahanol fanyleb oedran wrth ddyrannu eiddo.

 

            Cynigiwyd  cynnal adolygiad o lety gwarchod o fewn cyd-destun galw cynyddol am dai cymdeithasol ar draws Sir y Fflint; cynnydd yn nifer y bobl gydag anableddau corfforol; a’r egwyddor strategol yn y Strategaeth Dai ddrafft o wneud y mwyaf o'r stoc bresennol.

 

            Mae adolygiad desg cychwynnol wedi ei gynnal ac yn darparu gwell dealltwriaeth o ddefnydd y Cyngor o stoc tai, ac amlinellir manylion llawn yn eu cylch yn yr adroddiad.

 

            Cyngor Sir y Fflint oedd yr unig bartner ar y Gofrestr Tai oedd a dau lefel o feini prawf oedran ar gyfer llety gwarchod, ac nid oedd y naill na’r llall wedi’i alinio â meini prawf partneriaid y Cyngor. Roedd gan bob partner Un Llwybr Mynediad at Dai arall faen prawf o 55 oed a drosodd, a’r cynnig oedd bod Cyngor Sir y Fflint yn alinio’r meini prawf oedran gyda’r partneriaid hynny.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd Rheolwr y Tîm Digartrefedd a Chyngor pe bai treth y cyngor yn effeithio ar breswylydd a’i fod eisiau mynd i eiddo llai o faint, byddent yn mynd i Fand 1, ond ar gyfer eiddo oedd ar gael o stoc anghenion cyffredinol, nid llety gwarchod.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo meini prawf cymhwysedd pob gr?p bychan a chynllun gwarchod hyd at 55 oed i ddod â hwy yn unol â’n Partneriaid Un Llwybr Mynediad at Dai fel Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol; a

 

 (b)      Dylid cymeradwyo cwmpas yr adolygiad gydag adroddiadau diweddaru     yn cael eu cyflwyno yn ôl i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel            rhan o'r broses adolygu.