Mater - cyfarfodydd

Aura Progress Review

Cyfarfod: 13/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 7)

Adolygiad Cynnydd Aura

Pwrpas: Adolygu cynnydd Aura ers iddo sefydlu yn 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i alluoga’r Pwyllgor adolygu cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Medi 2017.Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a chyd-destun a gwahoddodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr, a Neil Williams, Ysgrifennydd y Cwmni, i adrodd ar berfformiad Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2018/19), a’r Cynllun Busnes a’r rhagamcaniadau ariannol ar gyfer 2019/20.

Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Ysgrifennydd y Cwmni gyflwyniad a oedd yn ymdrin â’r prif bwyntiau:

 

·         Diweddariad Gweithrediaeth Aura

·         Canolfan Hamdden yr Wyddgrug

·         Pafiliwn Jade Jones

·         Llyfrgelloedd

·         Perfformiad Ariannol 2018/19

·         Cyfarfod Blynyddol

·         Cynllun Busnes Aura 2019/23

 

Siaradodd y Cynghorydd Tudor Jones am y gwerth a’r gwasanaeth ardderchog a ddarperir gan y Gwasanaeth Llyfrgell Teithiol i gymunedau a llongyfarchodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’i dîm am y gwelliannau i’r gwasanaethau.

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am gyllid, polisi cyflogau, Cyflog Byw Cenedlaethol, pensiynau, recriwtio a chadw staff, marchnata, trefniadau llywodraethu a meysydd parcio.Gofynnodd y Cynghorwyr Paul Shotton ac Ian Dunbar am ddiweddariad ar Neuadd Chwaraeon Cei Connah.

 

Yn ystod y drafodaeth dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn parhau i feithrin perthynas agos a rhagweithiol gyda Bwrdd a Thîm Rheoli Aura a bod Aura yn dda iawn am gynnwys y Cyngor yn ei benderfyniadau busnes. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn parhau i chwarae rhan lawn wrth gefnogi’r sefydliad i gynnal y perfformiad yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Llongyfarchodd yr Aelodau’r Rheolwr Gyfarwyddwr a’i dîm ar y cynnydd a'r cyflawniadau gan gyfeirio at berfformiad llwyddiannus y cwmni.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mike Welch a Neil Williams am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am sicrhau bod mecanweithiau cefnogi ar gael ar gyfer Gwasanaethau Model Darparu Amgen o fewn y sir er mwyn sicrhau eu llwyddiant parhaus.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Medi 2017 ac yn canmol ei berfformiad; a

 

(b)      Nodi’r heriau ynghlwm wrth gynnal perfformiad y busnes;

 

(c)        Bod y Cyngor ac Aura yn trafod dyfodol Canolfan Hamdden Cei Connah gydag Aelodau Lleol;

 

(d)       Darparu cefnogaeth i Fodelau Darparu Amgen o fewn y sir er mwyn sicrhau eu llwyddiant parhaus.