Mater - cyfarfodydd

Business Rates – High Street and Retail Rate Relief Scheme

Cyfarfod: 19/03/2019 - Cabinet (eitem 330)

330 Ardrethi Busnes – Cynllun Grant Cyfraddau Is Busnesau’r Stryd Fawr a Manwerthu pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu cynllun grant 2019/20 sy’n gallu rhoi cyfraddau hyd at £2,500 yn is i fusnesau manwerthu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Ardrethi Busnes – Cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr a Manwerthu

 

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn gwerth £23.6 miliwn o gyllid ychwanegol ar draws Cymru er mwyn parhau ac ehangu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr i dalwyr ardrethi cymwys ar gyfer 2019-20.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r cynllun gwell, a ariannwyd yn llawn gan LlC, yn darparu cefnogaeth o hyd at £2,500 tuag at filiau Ardrethi Busnes ar gyfer eiddo manwerthu gyda gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Byddai’r cynllun gwell yn cynyddu lefel y gefnogaeth i fanwerthwyr mewn canol trefi, a hefyd yn cefnogi manwerthwyr mewn lleoliadau eraill. Cynlluniwyd y cynllun i wneud defnydd llawn o'r cyllid canlyniadol roedd Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn yng Nghyllideb yr Hydref y DU.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dylid mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Ardrethi Manwerthu ar gyfer 2019/20 a darparu rhyddhad ardrethi o hyd at £2,500 i fusnesau manwerthu cymwys.