Mater - cyfarfodydd

Environmental Enforcement

Cyfarfod: 09/04/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 59)

59 Gorfodi Amgylcheddol pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas: Adolygu polisi gorfodi’r Cyngor mewn perthynas â thaflu sbwriel.

 

Cofnodion:

                        Cyn ystyried yr adroddiad ar Orfodaeth Amgylcheddol dosbarthodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) nodyn atodol i’r Pwyllgor ar incwm o Rybuddion Cosb Benodedig.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i adolygu Polisi Gorfodaeth y Cyngor ar sbwriel.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd yn dilyn adolygiad diweddar o Wasanaeth Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor, roedd Swyddogion Gorfodi’r Cyngor ei hun yn gyfrifol am orfodi’n ymwneud â throseddau amgylcheddol llai difrifol (gweld rhywun yn taflu sbwriel a ch?n yn baethu er enghraifft).   Aeth ymlaen gan ddweud fod y Cabinet wedi gofyn am adnewyddu’r protocol ar gyfer cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig ac yn arbennig y dull dim goddefgarwch a fabwysiadwyd yn flaenorol gan dimau gorfodi’r Cyngor a weithredwyd yn llym ar draws y Sir.    Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn rhoi eglurder ar y dull ar gyfer gweithgareddau gorfodi yn y dyfodol a gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio i gyflwyno’r adroddiad. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio am y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Cyfeiriodd at y gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig lle roedd gan Swyddogion Gorfodi reswm i gredu bod unigolyn wedi troseddu a bod yna dystiolaeth ddigonol a phriodol i gefnogi erlyniad yn y llys os na fyddai Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei dalu.    Eglurodd na fyddai taflu sbwriel yn ddamweiniol yn derbyn sylw drwy Rybudd Cosb Benodedig.    Gan gyfeirio at reoli c?n, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio bod rheoli c?n yn parhau mewn ardaloedd cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd oedd yn destun Gorchymyn Man Agored Cyhoeddus, oedd yn cynnwys swyddogion mewn dillad plaen.

 

                        Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio bod Swyddogion Gorfodi Cyngor Sir Y Fflint yn gyfrifol am batrolio ar draws pob ardal o’r Sir i sicrhau bod pob ward yn derbyn lefel briodol a rhesymol o bresenoldeb gorfodaeth, fodd bynnag, ni ellir gwarantu presenoldeb dyddiol ym mhob ardal.    Aeth ymlaen gan ddweud yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018, bod argymhelliad wedi'i wneud y dylid rhoi ystyriaeth i Gynghorau Tref a Chymuned ariannu Swyddogion Gorfodi ychwanegol o fewn eu hardaloedd.    Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio er mwyn asesu’r lefel o ddiddordeb yn y cynnig y byddai’r Cyngor yn cysylltu â phob Cyngor Tref a Chymuned a chynnig y cyfle i dalu am amser swyddog ychwanegol yn eu hardaloedd ar gyfradd ddyddiol y cytunir arni i gymryd i ystyriaeth  y byddai holl refeniw a gynhyrchwyd drwy’r Rhybuddion Talu Cosb yn cael eu cynnal gan y Cyngor Sir.  Ar ôl cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned byddai ymarfer yn cael ei gynnal i bennu cynaliadwyedd cynllun ac ystyried pa un a ellir gweithredu’r prosiect gyda niferoedd staffio presennol neu a fyddai angen recriwtio Swyddogion ychwanegol.    

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at y wybodaeth atodol a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod a mynegodd bryderon am y cyfeiriad at darged incwm o £20k y flwyddyn, oedd yn cyfateb i 266 Rhybudd Cosb Benodedig bob blwyddyn.  Roedd yn cydnabod yr angen i  ...  view the full Cofnodion text for item 59