Mater - cyfarfodydd

Healthy Schools and Pre-School Programme

Cyfarfod: 21/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 5)

5 Rhaglen Ysgolion Iach a Chyn Ysgol pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniad ymchwil Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Iechyd, Lles a Diogelu adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganlyniad ymchwil Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gyda’r Cynllun Ysgolion Iach, Cynllun Cyn Ysgol Iach y bu pob un o’n hysgolion yn rhan ohonynt a’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol.Roedd y Rhaglen Ysgolion Iach wedi bod yn weithredol am 17 o flynyddoedd ac wedi darparu dull ysgol gyfan at les a bellach wedi ehangu i Ysgolion Cyn Ysgol Iach. Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a gynhaliwyd yn ystod y 12 mis diwethaf a chyfeiriodd aelodau at y targedau a ddengys yn Adran 1.04 a oedd wedi’u cwrdd ac roedd hefyd yn falch o gadarnhau fod 10% o ysgolion wedi ennill y statws gwobr ansawdd genedlaethol.

 

Parhaodd i ddarparu gwybodaeth am y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol a oedd yn darparu brecwast, cinio a chyfleoedd i wneud ymarfer corff a choginio ar ddau safle gyda chynigion i ymestyn hyn i Ysgol Uwchradd Y Fflint ac Ysgol Gynradd Queensferry.Cyfeiriodd yr Aelodau at y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion mewn partneriaeth â gwneuthurwyr polisïau Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cancer Research UK a Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru i gael data ar les. Bu i’r holl ddisgyblion ysgol uwchradd gymryd rhan yn yr astudiaeth yn yr hydref 2017 gydag 82% o ddisgyblion yn cymryd rhan yn yr arolwg.Roedd yr arolwg yn cynnwys bwyd, ffitrwydd a gweithgarwch corfforol, iechyd emosiynol, defnydd a chamddefnydd sylweddau a rhyw a pherthnasau.Roedd cael ysgolion i gymryd rhan yn llwyddiant aruthrol yn enwedig oherwydd pwysigrwydd y data.Yn y Gwanwyn 2018 roedd pob ysgol wedi derbyn ei adroddiad unigol ac ym mis Tachwedd 2018 cwblhawyd yr adroddiad sirol cyntaf.Roedd embargo ar ddata cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru hyd at fis Ebrill.Roedd Cynlluniau Gweithredu ym mhob ysgol a oedd dan arweiniad disgyblion ym mhob Ysgol Uwchradd ac roedd Cynllun Gweithredu Sirol yn cael ei ddatblygu a fyddai’n cael ei rannu wedi i’r data cenedlaethol gael ei gyhoeddi. Roedd cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ymweld â dau ddigwyddiad ysgol ac yna darparodd wybodaeth am yr elfennau pwysicaf. Roedd Sir y Fflint o fewn y cyfartaledd cenedlaethol ac roedd hyn yn y cynllun 4 blynedd a gydag arolwg arall yn cael ei gynnal yn yr hydref. Byddai’r data yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ac i sicrhau cyfleodd i ymgysylltu â rhieni yn y cynlluniau gweithredu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes fod hwn yn adroddiad ardderchog ond nid oedd yn un hawdd i’w ddarllen o ystyried bod y ffigyrau ar alcohol yn 51% a chyffuriau yn 31% gan nodi bod Canabis yn gyffur sy’n arwain at eraill ac ni ddylid ei fychanu. Mynegodd bryder o ran y 22% o blant 13 oed neu iau oedd yn weithredol yn rhywiol pan mae’r oedran cydsynio yw 16 mlwydd oed, roedd hwn yn ystadegyn pryderus iawn. Nid oedd y gymdeithas yn gwneud digon i’r plant hyn ac roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 5