Mater - cyfarfodydd
Appointment of an Actuarial and Benefits Provider (PART 2)
Cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 55)
Penodi Darparwr Actiwaraidd a Budd-Daliadau (PART 2)
Darparu proses i Aelodau’r Pwyllgor a gynhaliwyd i gaffael gwasanaethau darparwr Actiwaraidd a Budd-daliadau a chymeradwyo penodiad y Darparwr hwnnw
Cofnodion:
Gadawodd Mr Middleman, Mr Harkin, Mr Buckland, Mrs McWilliam a Miss Gemmell yr Ystafell Bwyllgor ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda.
Cyflwynodd Mrs Fielder yr adroddiad gan drafod y broses a ddilynwyd ar gyfer caffael Darparwr Actiwaraidd a Budd-Daliadau ar gyfer y Gronfa Bensiynau. Roedd hyn yn cynnwys meini prawf sgorio a sgoriau terfynol ar gyfer y tendrau a dderbyniwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn seiliedig ar y sgôr a nodir yn yr adroddiad, cytunodd y Pwyllgor i ail benodi Mercer i gyflawni rôl ymgynghorydd actiwaraidd a budd-daliadau i Gronfa Pensiynau Clwyd am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2025 (gyda’r opsiwn i ymestyn am 12 mis pellach hyd at 31 Mawrth 2026).