Mater - cyfarfodydd

Employer Care Pay Issue (PART 2)

Cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 54)

Mater tâl am ofal cyflogwyr (PART 2)

Rhoi manylion i Aelodau’r Pwyllgor am dordyletswydd posib yn ymwneud ag un Gweithiwr penodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham yr eitem hon ar yr agenda ond nododd mai Ms Robinson sy’n arwain y prosiect. Gwnaed cynnydd da ar y cyfrifiadau ac mae nifer sylweddol o lythyrau eisoes wedi eu hanfon at aelodau. Nid ydynt wedi derbyn cwynion swyddogol, sy’n arwydd da, a dim ond pum ymholiad a dderbyniwyd gan aelodau'r cynllun.

 

Nododd Mr Latham yr effaith ariannol gyffredinol isel ond pwysleisiodd mai’r nod allweddol yw sicrhau bod aelodau’r cynllun yn cael eu trin mor gadarnhaol â phosib o ystyried sensitifrwydd y mater. Cadarnhaodd Mr Latham bod y gr?p prosiect wedi bod mewn cyswllt parhaol â'r Rheoleiddiwr  Pensiynau oedd i’w weld yn fodlon â’r datrysiad. Mae Mr Latham yn disgwyl y bydd yn cymryd tan ddiwedd Chwefror i gwblhau’r rhan fwyaf o’r cyfrifiadau a’r cyfathrebu, gydag ychydig o achosion cymhleth yn cymryd tan ddiwedd  Mawrth. Mae ganddynt alwad gyda’r Rheoleiddiwr Pensiynau ar 6 Mawrth ac yn gobeithio cau’r achos gyda’r TPR bryd hynny.

 

Nododd Mr Latham bod datrysiad wedi ei ychwanegu at y system gyflogau sydd ar hyn o bryd yn cael ei brofi ac maent yn parhau i weithio gyda thîm cyflogau'r Cyngor ar hyn.

 

 Dywedodd Mr Everett ei fod yn gwerthfawrogi'r holl waith sydd wedi ei wneud hyd yn hyn a nododd bod yr undebau wedi bod o lawer o gymorth gyda'r broses a'r cyfathrebu gydag aelodau.

 

Amlygodd Mrs McWilliam yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor.  Cadarnhaodd mai dim ond 52 o achosion sydd ar ôl i’w cyfrifo a bod tua 1200 o achosion wedi eu cwblhau hyd yma. Ar hyn o bryd maent yn y cam gwirio fel y gellir cyfathrebu pan fydd angen. Cadarnhaodd mai’r gostyngiad gros mwyaf i bensiwn blynyddol oedd £99 y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect mawr hwn gan fod hynny yn ychwanegol i’w gwaith o ddydd i ddydd. Nododd y Cadeirydd ei bod yn amlwg bod cynnydd gwych wedi ei wneud ers y diweddariad diwethaf a’i fod yn falch nad oedd unrhyw gwynion wedi eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.