Mater - cyfarfodydd
Economic and Market Update
Cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 51)
51 Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad PDF 91 KB
Diweddaru Aelodau’r
Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad bras ar yr eitem hon ar yr agenda. Soniodd am dudalen 257 oedd yn dangos y lefel o ansefydlogrwydd a welir yn Ch4 2018, yn enwedig ym mis Hydref a Rhagfyr. Mae marchnadoedd America wedi eu heffeithio gan fraw heintus yngl?n â diwedd esmwytho meintiol, a hefyd mae’r marchnadoedd wedi cael eu heffeithio gan bryderon parhaol yngl?n â Brexit. Ers 31 Rhagfyr, mae’r marchnadoedd wedi eu hadfer bron i’r sefyllfa roeddynt ynddi cyn mis Rhagfyr. Mae arenillion gilt wedi cwympo yn y chwarter hwn sydd yn broblem i'r DU. Nododd Mr Harkin bod ansefydlogrwydd yn debygol o barhau am beth amser.
Soniodd y Cynghorydd Jones am dudalen 262, lle nodir bod Japan yn dod yn darged i Weinyddiaeth Trump yn 2019 oherwydd yr anghydbwysedd yn y sector Ceir. Soniodd am y newyddion diweddar am safle Honda yn Swindon oedd yn cyd-fynd â hyn.
Nododd Mr Everett bod y raddfa twf ar gyfer y DU wedi ei hisraddio gan Fanc Lloegr ar gyfer y tair blynedd hyd at 2022.
Dywedodd Mr Harkin bod yr oedi gyda Brexit yn golygu bod cwmnïau eisoes wedi gwneud penderfyniadau ar sut i ddelio ag ef, er nad ydynt yn gwybod beth fydd y canlyniad. Mae hyn yn ei hun yn creu ansicrwydd yn yr economi, ac o ganlyniad i hynny, yn y marchnadoedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a thrafod y Diweddariad am yr Economi a'r Farchnad ar 31 Rhagfyr 2018.
(b) Nodi sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.