Mater - cyfarfodydd

Pension Administration/Communications Update

Cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 49)

49 Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 122 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ms Meacock ei hun i’r Pwyllgor ac eglurodd mai hi bellach yw’r Prif Swyddog Pensiynau ar gyfer rheoliadau a chyfathrebu. Rhoddodd Ms Meacock ddiweddariad ar y prif bwyntiau yn yr eitem hon ar yr agenda. Mae’r prosiect crynhoi wedi ei ymestyn oherwydd Prosiect Apple a symudiad adnoddau. Mae’r tîm technegol wedi bod yn gweithio ar 980 o ymholiadau gan Mercer, a’r nod yw gwella safon data cyn prisiad actiwaraidd 2019. Mae’r gwaith ar iConnect yn mynd rhagddo. Mae Mrs Williams ar gr?p meincnodi’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifiaeth ac mae adrodd ar y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) wedi ei drafod dros amser, bydd y KPIs yn newid yn unol â  thrafodaethau yn y gr?p.

Nododd Ms Meacock bod y swydd swyddog cyfathrebu wedi ei llenwi bellach a bod ymgeisydd mewnol wedi ei benodi, sy’n golygu felly bod swydd wag arall o fewn y tîm. Roedd un o’r swyddogion cyflogau rhan amser wedi ymddeol felly mae swydd wag yn y tîm technegol hefyd sydd angen ei llenwi. Bydd y Prif Swyddog Pensiynau yn canolbwyntio ar lenwi’r swyddi gwag hyn dros yr wythnosau nesaf.

Gofynnodd Mr Hibbert am y llinell binc yn y KPIs ac a yw hyn yn ymwneud â’r nifer o swyddi sy’n dod i mewn. Dywedodd Mrs McWilliam bod y llinell binc yn ymwneud â’r nifer o achosion sydd wedi eu cwblhau o fewn y mis, yn hytrach na'r nifer o achosion newydd. Er enghraifft, cwblhawyd 340 o achosion ymadael ac roedd 63% o fewn yr amserlenni cyfreithiol.

Gofynnodd y Cynghorydd Jones beth oedd 24.92% ar dudalen 223 yn ei olygu gan nad yw’n clymu gyda’r nifer o gofnodion yn y Gronfa. Cadarnhaodd Ms Meacock bod amryw gofnodion ar gyfer rhai aelodau, er enghraifft os oes ganddynt amryw o swyddi, ond mae'r mesur hwn yn ymwneud â'r nifer o wir aelodau, yn hytrach na chofnodion, sydd wedi cofrestru ar gyfer hunan wasanaeth aelodau.

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion am ddal i ymgymryd â gwaith y Rheolwr, a chadw pethau ar y trywydd iawn mewn cyfnod heriol.

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf a gwneud sylwadau.