Mater - cyfarfodydd

Governance Update

Cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 47)

47 Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 146 KB

I ddarparu’r diweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu ac i gytuno ar yr ymateb i ymgynghoriad MHCLG ar y Fargen Degcryfhau amddiffyniad pensiwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Mr Latham eu bod yn symud ymlaen ar eitem 1.01 a bod cyfweliadau ar gyfer Cyfrifydd a Swyddog Cefnogi Llywodraethu yn cael eu cynnal fory, byddant yn cael eu hysbysebu drwy’r swydd raddedig yn fuan. Dywedodd Mr Everett eu bod wedi bod yn gweithio’n galed ar y swyddi a’r broses o ail-drefnu staff.

 

Amlygodd Mr Latham dudalen 117 a’r gwaith mae Bwrdd Cynghori’r Cynllun yn ei wneud a’i bwysigrwydd gan ei fod yn effeithio ar y Gronfa.

 

Rhoddodd Mr Middleman ddiweddariad ar y Fargen Deg, gan amlygu y bu ymgynghoriad a bod ymateb drafft yn y papurau er mwyn cytuno arno mewn egwyddor.  Rhoddodd Mr Middleman drosolwg o gefndir y Fargen Deg, gan nodi ei bod yn ymwneud â gwarchod hawliau gweithwyr sy’n cael eu tynnu o'r sector cyhoeddus at gyflogwr sector preifat. Ar hyn o bryd maent yn aros yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’n newid i gynllun sy’n cynnig buddion sy’n “weddol gymharol" i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol fel y tystiwyd gan actiwari. O dan y Fargen Deg newydd bydd y llwybr gweddol gymharol yn diflannu. 

 

Mae’r cwestiynau a ofynnwyd ac a atebwyd wedi eu nodi o dudalen 134. Mae'r ail gwestiwn yn trafod y diffiniad o gyflogwr Bargen Deg, sef yr holl gyrff cyhoeddus ar wahân i gyflogwyr addysg bellach ac addysg uwch. Mewn ymateb, mae’r Gronfa wedi gwneud sylw bod hyn yn ymddangos yn rhesymol ond bod anghysondeb posib sydd angen ei gadarnhau os taw hyn yw’r bwriad.

 

Mae Cwestiwn 3 yn ymwneud â threfniadau pontio, er enghraifft beth sy’n digwydd i’r rheiny sydd mewn cynllun gweddol gymharol pan fydd y contract yn dod i ben. Bydd eu pensiwn a’u hawliau yn cael eu trosglwyddo’n orfodol yn ôl i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sydd yn cynyddu risgiau a chostau posib i gyflogwyr gan y byddant yn cael eu trosglwyddo trosodd ar sail unigol, a all fod yn hael i unigolion oherwydd y rhagdybiaethau a ddefnyddir o'i gymharu â'r trosglwyddiad a gynigir. Yn flaenorol, byddent yn cael eu trosglwyddo “gyda’i gilydd” mewn dull a fyddai fel arfer yn gwarchod y cyflogwr ond yn rhoi canlyniad teg i’r aelodau hefyd. Dywedodd Mr Middleman nad oedd llawer o gynlluniau gweddol gymharol felly yn gyffredinol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gallai fod yn rhywbeth y gellid ei ddioddef er mwyn ei wneud yn syml i’w weithredu.

 

Dywedodd Mr Middleman bod elfen allweddol yr ymgynghoriad ar dudalen 136, sy'n trafod cyflwyno “statws cyflogwr tybiedig”. Pe bai’r Cyngor yn rhoi gwasanaethau ar gontractau allanol, yna gallai’r Cyngor fod yn “gyflogwr tybiedig” ac ni fyddai angen cytundeb derbyn na bond ar y cyflogwr allanol.

 

Tra byddai’r llwybr corff derbyniedig yn dal i fod ar gael, byddai hyn yn symleiddio’r broses yn yr achosion lle mae’r Cyngor yn cytuno i gymryd yr holl risg. Byddai hyn yn golygu na fyddai angen cyfrifiad dyled ymadael. Fodd bynnag, nododd Mr Middleman y dylid parhau i ddogfennu perthynas y cyflogwr newydd yn llawn gan fod yn rhaid iddynt barhau i dalu cyfraniadau i'r  ...  view the full Cofnodion text for item 47