Mater - cyfarfodydd
Pooling Investments in Wales
Cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 46)
46 Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru PDF 96 KB
Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru ac i gytuno ar yr ymateb i ymgynghoriad MHCLG ar Ganllawiau Statudol ar Gyfuno Asedau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Pooling Investments in Wales, eitem 46 PDF 118 KB
- Enc. 2 for Pooling Investments in Wales, eitem 46 PDF 370 KB
- Enc. 3 for Pooling Investments in Wales, eitem 46 PDF 112 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Mr Latham ar yr eitem hon ar yr agenda oedd yn cynnwys pedair prif adran; buddsoddi cyfrifol, benthyg stoc, canllawiau statudol a diweddariad cyffredinol ar gyfuno:
· Buddsoddi cyfrifol – ar hyn o bryd mae polisi cynaliadwyedd gan y Gronfa o fewn yr ISS. Mae sesiwn hyfforddi ar gyfer y Pwyllgor ar 20 Mawrth i drafod beth mae’r Gronfa yn ei wneud ar hyn o bryd o ran buddsoddi cyfrifol a hefyd pa arferion gorau oedd yn y maes hwn. Bydd hefyd yn cynnwys sesiwn ar beth mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ei wneud yn y maes hwn.
Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at dudalen 117 a nododd y disgwylir mwy o ganllawiau ar lefel genedlaethol gan y SAB ar fuddsoddi cyfrifol. Y prif bwrpas yw darparu canllawiau ar beth ddylai’r cronfeydd fod yn ei wneud gan y dylent allu darparu polisïau buddsoddi cyfrifol yr holl gronfeydd. Gall hyn fod yn anodd gan y gallai pob cronfa fod a’i bolisi ei hun a gallant fod yn dra gwahanol.
Mae’r Bartneriaeth yn datblygu polisi buddsoddi cyfrifol i'r Gronfa sy'n cael ei ddrafftio gyda Hymans fel yr ymgynghorydd. Mae Hymans wedi cynhyrchu holiadur i gasglu credoau buddsoddi'r Gronfa o fewn y gronfa ar fuddsoddi cyfrifol. Mae Hymans eisiau cael dau ymateb, un o safbwynt swyddogion ac un gan Gadeirydd y Pwyllgor yn seiliedig ar farn y Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai’n well ganddo petai’r Swyddogion yn ymateb erbyn y dyddiad cau gan eu bod yn deall buddsoddi cyfrifol yn well, fodd bynnag awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ymateb ar ôl sesiwn hyfforddi 20 Mawrth pan fydd ganddynt well dealltwriaeth. Roedd Mr Everett a’r Pwyllgor yn cytuno gyda’r cynnig hwn.
· Benthyg Stoc - Trafododd Mr Latham yr argymhelliad i ganiatáu’r Bartneriaeth i gymryd rhan mewn benthyg stoc. Mae’n rhaid i’r wyth cronfa o fewn y Bartneriaeth gytuno iddo neu ni fydd modd ei symud ymlaen. Mae chwech o'r cronfeydd eisoes wedi bod drwy eu Pwyllgorau, sydd wedi cytuno i’w ganiatáu. Mae gan y cronfeydd eraill lawer o ecwiti a bydd benthyg stoc felly yn cael mwy o effaith. Mae hyn yn fach ei effaith ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd gan mai dim ond dyraniad 4% sydd ganddynt o ran ecwitïau byd-eang, sy’n golygu mai’r incwm disgwyliedig fydd £25,000 y flwyddyn o fenthyg stoc.
Dywedodd Mr Latham wrth y pwyllgor mai benthyg stoc yw pan fydd buddsoddwr yn benthyg stoc i drydydd parti fel eu bod yn cael perchnogaeth dros gyfnod o amser ac am hynny maent yn talu ffi i’r rhoddwr benthyciadau. Mae’r rhoddwr benthyciadau yn derbyn sicrwydd cyfochrog pe bai'r rhoddwr benthyciadau yn methu. Yn gyffredinol bydd y Bartneriaeth yn cael tua £1 miliwn o ran incwm. Fodd bynnag, mae'r buddsoddwr yn colli eu hawliau pleidleisio. I liniaru hyn yn rhannol gall y Bartneriaeth ddal 5% o gyfranddaliadau yn ôl ym mhob stoc er mwyn cadw’r bleidlais.
Gofynnodd y Cynghorydd Mullin a oes unrhyw risgiau gwirioneddol i'r Pwyllgor boeni yn eu cylch. Dywedodd Mr Latham bod rhai risgiau mewn amgylchiadau eithriadol. ... view the full Cofnodion text for item 46