Mater - cyfarfodydd

Development of Capital Programme 2019/20 - 21/22

Cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 90)

90 Datblygu Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 21/22 pdf icon PDF 218 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf y cyfnod 2019/20 hyd at 21/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar ddatblygu Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2021/22 a fyddai’n cael ei hariannu gan y Cyngor, gan gynnwys manylion cyfredol grantiau a benthyciadau penodol ar gyfer y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a benthyciadau i North East Wales (NEW) Homes.  Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r dyraniadau gwahanol ar gyfer y tair adran Statudol/Rheoliadol, Asedau a Gedwir a Buddsoddiadau.

 

Ers cyhoeddi’r diffyg cyffredinol o £8.216 miliwn ym mis Chwefror 2018, bu ymdrech gadarnhaol ac arwyddocaol gyda derbyniadau cyfalaf yn cael eu creu a chyllid cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfalaf Cyffredinol ychwanegol.  Roedd hyn yn lleihau cyfanswm y diffyg amcangyfrifedig yng nghyfnod 9 2018/19 i £1.428 miliwn dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020/21.  Er bod cynnydd da wedi’i wneud ar dderbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd hyn yn dod yn fwy heriol dros amser.  Amcangyfrifwyd tua £2.3 miliwn o dderbyniadau cyfalaf yn ystod y cyfnod, yn ddarostyngedig i risgiau o ran cymhlethdodau a grymoedd y farchnad.  Yn unol â pholisi darbodusrwydd y Cyngor ar dderbyniadau cyfalaf, ni wnaed unrhyw newidiadau i’r sefyllfa gyllidebol hyd nes y byddant wedi’u cyflawni’n llawn.

 

O ran y dyraniadau arfaethedig ar gyfer y tair blynedd, rhoddwyd esboniad ar y rhesymeg i’r cynlluniau newydd gefnogi cyflwyniad digidol y cwricwlwm ysgolion a’r cynllun gliniaduron/cyfrifiaduron personol newydd.  Roedd diweddariad ar grantiau penodol yn nodi’r costau a oedd yn gysylltiedig â rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif lle’r oedd cyfraniadau uwch gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar gyfraniadau’r Cyngor.  Yn ystod trosolwg o gynlluniau posibl yn y dyfodol, cyfeiriwyd at y gwaith a wnaed yn ardal Saltney fel rhan o’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol lle’r oedd cyfraddau ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cynyddu o 75% i 81%.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Shotton nifer o ymrwymiadau yn y Rhaglen Gyfalaf, er enghraifft y buddsoddiad cyfalaf sylweddol mewn ysgolion gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer cysylltedd digidol, yn ogystal ag uwchraddio mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig.  Croesawodd y cyfraniadau uwch gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd a’r ymrwymiad parhaus i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol.

 

Croesawyd y dyraniadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru gan y Prif Weithredwr hefyd, er bod y straen ar gyllidebau’r Cyngor yn parhau.  Cyfeiriodd at yr angen i ehangu’r ddarpariaeth yng Nghartref Preswyl Marleyfield ac i fuddsoddi mewn cynlluniau chwarae er mwyn bodloni’r galw.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Johnson y dylid newid enw Theatr Clwyd er mwyn adlewyrchu buddsoddiad y Cyngor ac i hyrwyddo Sir y Fflint.  Er i’r Prif Weithredwr gytuno y byddai’n codi’r mater hwn gyda’r Bwrdd, soniodd am lwyddiant y Theatr, a oedd yn uchel ei pharch ar hyd a lled y wlad, ac yn theatr â delwedd brand cadarnhaol.

 

Wrth drafod pwysigrwydd y Theatr, dywedodd y Cynghorydd Williams y dylai’r enw barhau fel y mae oherwydd roedd yn enw sefydledig a oedd wedi bod yn uchel ei barch ers cyfnod sylweddol o amser.

 

Pan holodd y Cynghorydd Cunningham am y cynlluniau newydd arfaethedig yn y Rhaglen Gyfalaf, esboniodd y Prif Swyddog  ...  view the full Cofnodion text for item 90