Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage

Cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet (eitem 307)

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Y Trydydd Cam a'r Cam Clo

Pwrpas:        Cytunodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr i oedi'r ystyriaeth o adroddiad cyllideb cronfa'r Cyngor nes i swyddogion adolygu nifer o feysydd penodol o gyllid corfforaethol.  Cafodd canlyniad y gwaith hwn ei rannu yn ystod y briffio i’r Aelodau ar 14 Chwefror 2019.

 

Gwahoddir y Cabinet unwaith eto, i wneud argymhellion i’r Cyngor ar sail y cyngor sydd wedi’i gynnwys o fewn yr adroddiad i’r Cabinet ar 22 Ionawr 2019 ac yn dilyn ystyriaeth o’r nodyn technegol ychwanegol a barn broffesiynol ar y cyllid corfforaethol yn ystod briffio i’r Aelodau ar 14 Chwefror 2019.

 

Cofnodion:

            Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar lafar ar Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 - adroddiad Trydydd Cam a'r Cam Clo a rhoddodd gopïau o’r sleidiau a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Roedd y sleidiau’n rhoi sylw i’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gyfreithlon a mantoledig;

·         Y sefyllfa bresennol o ran y gyllideb;

·          Diweddariad ar yr adolygiad o feysydd penodol o Gyllid Corfforaethol yn dilyn gohirio’r gyllideb yng nghyfarfod y Cyngor ar 29 Ionawr 2019;

·         Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) – y defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·         Cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a heb eu clustnodi

·         Aildrefnu dyledion a rheolaeth llif arian parod

·         Safbwyntiau proffesiynol

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa gyffredinol gan gynnwys y rhagolygon ar gyfer y Tymor Canolig.   Yn y sleidiau roedd manylion llawn am y defnydd o Dderbyniadau Cyfalaf yn cynnwys cyngor proffesiynol y Rheolwr Cyllid na ddylid defnyddio Derbyniadau Cyfalaf i ad-dalu dyled.  Rhoddwyd gwybodaeth fanwl hefyd ar y defnydd o gronfeydd heb eu clustnodi ac wedi eu clustodi, yn cynnwys yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar y blynyddoedd i ddod.  Argymhelliad y Rheolwr Cyllid yw y dylid defnyddio swm ychwanegol o £0.321m o gronfeydd wrth gefn dros ben sydd wedi cronni yn y flwyddyn, a fyddai’n addasiad rhesymol (sef £0.189m o gronfeydd heb eu clustnodi a £0.132 o gronfeydd wedi’u clustnodi).

 

Darparwyd dadansoddiad o ffioedd Band D, yn cynnwys y cynnydd blynyddol, misol ac wythnosol.  Roedd hyn yn cynnwys praeseptau Cynghorau Tref a Chymuned  a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

 Ni fu unrhyw newid ym marn broffesiynol y Swyddog Adran 151/Rheolwr Cyllid Corfforaethol na'r Prif Weithredwr. Yn ychwanegol at eu barn ar yr uchod cafwyd eu barn ar y dyfodol.  Dywedasant bod cynaladwyedd cyllidebau’r Cyngor dan fygythiad difrifol gyda dim ond ychydig o opsiynau o unrhyw faint ar ôl o ran dewisiadau gwasanaeth lleol.  Roedd pryder ynghylch y ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn sy’n mynd yn llai flwyddyn ar ôl blwyddyn pan osodir y gyllideb, gydag amlder ymrwymiadau cenedlaethol heb eu hariannu yn achosi pryder mawr.  Roedd yn anodd gweld sut y gallai'r Cyngor fantoli'r gyllideb ar gyfer 2020/21 ymlaen heb wrthdroi'r polisi ariannol cenedlaethol i ryw raddau.  Roedd cynllunio cynnar ar gyfer 2020/21 – 2022/23 yn hanfodol bwysig gyda rhagolygon diweddaredig ar gyfer y tymor canolig

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y dyddiad ar gyfer derbyn cwestiynau/ceisiadau gan yr Aelodau wedi mynd heibio ac nad oedd yn ymarferol bellach i swyddogion ymateb i’w cwestiynau.  Roedd yr aelodau wedi cael eu hysbysu o hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton mai hon oedd y gyllideb anoddaf hyd yma i'r Cyngor a chytunodd bod yn rhaid gwrthdroi'r polisi ariannol cenedlaethol.  Soniodd am y blynyddoedd anodd sy'n wynebu'r Cyngor a bod angen cadw hynny mewn cof gan y byddai unrhyw ddefnydd ychwanegol o'r cronfeydd wrth gefn yn gwaethygu problemau yn y blynyddoedd i ddod.  Nid oedd yn gyfforddus gyda'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ond doedd dim opsiynau eraill ar gael.

 

Dosbarthwyd cyfres o benderfyniadau arfaethedig a dderbyniwyd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 307