Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Strategy 2019/20 & Treasury Management Policy Statement, Practices and Schedules 2019/20 – 2021/22

Cyfarfod: 19/02/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 13)

13 Arferion a Rhaglenni Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas: Cymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20 a Thrysorlys 2019/20 – 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20, ar y cyd â Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys    2019/20 – 2021/22, ac Arferion ac Atodlenni Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth gefndirol a dywedodd bod y Pwyllgor Archwilio wedi cymeradwyo’r Strategaeth, y Polisi, Arferion ac Atodlenni, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2019. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cabinet hefyd wedi ystyried adroddiad manwl ar osod Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20 a gynhwysir yn atodiad A i’r adroddiad, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn union cyn cyfarfod y Cyngor Sir a’i fod wedi ei argymell i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20, Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22, ac Arferion ac Atodlenni Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22.